Wimbledon, John McEnroe a fi

  • Cyhoeddwyd
Eirian JonesFfynhonnell y llun, Eirian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Eirian Jones o flaen y Cwrt Canol

Mae twrnament tennis Wimbledon yn ei anterth, ac un a fu'n dyfarnu yno am 13 mlynedd ydy Eirian Jones o bentref Blaenpennal, Ceredigion, yn wreiddiol, ond sydd bellach yn byw yn Llangeithio.

Yma, mae'n sôn am y profiad "gwirioneddol frawychus" o ddyfarnu gemau Cwrt Canol yn y twrnament blynyddol, a'r diwrnod cofiadwy y dywedodd John McEnroe ei linell enwog, "You cannot be serious" wrthi.

"Pythefnos Wimbledon yw pythefnos orau'r flwyddyn dwi'n meddwl.

"Federer yw'r arwr i fi, dwi wedi bod yn ei ddilyn ers i fi orffen dyfarnu. Dwi'n ceisio ei weld e'n chwarae'n fyw rhywle yn y byd bob blwyddyn.

"Pan o'n i ar y Cwrt Canol gyda fe, o'n i ddim yn gwerthfawrogi'r ffaith. Mae gwylio ei draed e yn ystod gêm yn anhygoel, y ffordd mae'n taro'r bêl, a mae natur ei bersonoliaeth yn hyfryd iawn. Mae pawb yn hoffi Federer."

Mae Eirian Jones yn hel atgofion am ei dyddiau fel dyfarnwr llinell yn Wimbledon ar Beti a'i Phobl ar BBC Radio Cymru ddydd Sul, 7 Gorffennaf.

Cafodd ei magu ar dyddyn ym Mlaenpennal ar y Mynydd Bach ger Tregaron, ymhell o Wimbledon ac unrhyw dwrnament tennis arall. Ond i'w mam mae'r diolch bod ganddi ddiddordeb yn y gamp, meddai.

"Pan o'n i'n dychwelyd o'r ysgol gynradd, Ysgol Tan y Garreg ym Mlaenpennal, yr unig adeg bydde'r teledu ymlaen yn ystod y dydd bydde adeg Wimbledon, ac oedd Mam yn edrych ar y tennis ar y teledu.

"Roedd ganddi ddiddordeb enfawr yn Wimbledon, a beth bynnag oedd gan Mam ddiddordeb ynddo, o'n i â diddordeb, felly dechreuais i hoffi'r gêm hefyd."

Ond gweld hysbyseb ar hap yn Rhaglen y Dydd yn Wimbledon flynyddoedd wedyn a arweiniodd at gyfnod o 13 mlynedd yn dyfarnu'r gêm ar y lefel uchaf.

Ffynhonnell y llun, Eirian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb debyg i'r un a welodd Eirian Jones flynyddoedd yn ôl

"Fe es i Wimbledon, ac wrth giwio i fynd i mewn fe weles i hysbyseb bach yng nghefn rhaglen y dydd yn dweud rhywbeth fel 'How about having the best seat in the house'? Ac o hynny fe wnes i ymaelodi â'r British Tennis Umpire's Association."

"O'n i'n athrawes, ac yn byw ar gyrion Birmingham ar y pryd, ac i ddechre o'n i'n mynd i dwrnamentau bach mewn clybiau lleol, a wedyn yn dyfarnu ffeinals y clybiau. Wedyn es i ar gwrs a chael rhagor o brofiad am rhyw dair neu bedair blynedd cyn ges i'r alwad i fynd i Wimbledon yn 1998.

"Dwi'n cofio roedd fy rhieni yna yn Wimbledon, y diwrnod cynta o'n i'n dyfarnu. O'n nhw mewn oedran bryd hynny. Fe ddethon nhw ar y cwrt allanol a dwi'n cofio nhw yn wavo ata i, a finne yn meddwl 'well i fi beidio wavo nôl' - mae rheolau mor llym yn Wimbledon!

"Ond mi o'n nhw yna ar y foment wnes i gerdded ar y cwrt am y tro cynta' yn Wimbledon, a dwi mor falch o hynny."

Dyfarnwr llinell, mewn tîm o saith oedd Eirian, yn gweithio shifftiau o awr a chwarter ar y tro, a'r lefel o ganolbwyntio yn uchel, a'r nerfusrwydd hefyd, yn real iawn.

Ffynhonnell y llun, Eirian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Eirian Jones ar ei diwrnod cyntaf yn dyfarnu ar y Cwrt Canol yn 2002

'Profiad brawychus'

"Roedd y profiad ar y Cwrt Canol yn wirioneddol frawychus. O'ch chi eisiau neud e, wrth gwrs, o'n i bob amser yn edrych mlaen i fod ar y Cwrt, ond wir, bydden i ddim yn bwyta dim byd trwy'r dydd, o'n i mor nerfus â hynny.

"Os yw rhywun yn eich bwrw chi â'r bêl, bydde sylw'r camera yn syth ar eich wyneb chi, ond doeddech chi ddim eisiau i ddim byd fel na ddigwydd. Oeddech chi eisiau toddi mewn i'r cefndir.

"O'dd hi'n gallu bod yn grochan berwedig yna, yn enwedig os oedd rhywun o Brydain yn chwarae, ac yn aml iawn oeddech chi'n cerdded mewn i'r gêm yn ei chanol, ac o'dd hi'n anodd neud hynny."

Ffynhonnell y llun, Eirian Jones
Disgrifiad o’r llun,

Tim y llinell gyntaf ar y Cwrt Canol yn 2002

Diwrnod cofiadwy

"Mae 'na reolau erbyn hyn, os ydy'r chwaraewyr yn gweud rhywbeth cas at ddyfarnwr llinell neu'n rhegi, maen nhw'n cael ffein... mae pethe wedi symud mlaen lot ers i John McEnroe ddweud 'You cannot be serious!'

"Ond fe ddywedodd e hynny wrtha i! D'on i ddim yn dyfarnu pan oedd e yn ei anterth, ond mae'n dal i chware'r seniors. Doedd e ddim yn lico un o fy ngalwadau i, unwaith, ac fe sefodd o mlaen gyda'i freichiau ar ei hips ac fe wedodd 'you cannot be serious!'

Ffynhonnell y llun, Eirian Jones

Hefyd o ddiddordeb: