Elin Rhys a Ffion Rees: Mam a merch yn y byd busnes
- Cyhoeddwyd
Mae Elin Rhys, sylfaenydd a chadeirydd cwmni cyfryngau Telesgop yn Abertawe wedi cymryd cam yn ôl o reoli'r cwmni yn ddiweddar. Mae ei merch, Ffion Rees, yn gweithio i'r cwmni fel golygydd a chynhyrchydd radio, ac erbyn hyn, yn un o'r cyfarwyddwyr.
Yma mae'r fam a'r ferch yn trafod eu perthynas, cyd-weithio a rôl y fenyw ym myd busnes.
Elin Rhys - 'Rwy'n gweld ynddi yr un egni a oedd gen i chwarter canrif yn ôl.'
Fe wnes i sefydlu cwmni Telesgop yn 1993 pan oedd Ffion yn flwydd oed. Roedd gen i fabi bach, yn adeiladu tŷ newydd a dechre cwmni yn yr un flwyddyn.
Cyn gweithio yn y byd teledu o'n i'n wyddonydd i'r Bwrdd Dŵr, ac yn y cyfnod hwnnw roedd cael dyrchafiad yn anodd i fenyw, ac roedd cyflogau menywod yn is na dynion yn yr un swydd, a'r cyfraddau ar gael i bawb eu gweld. Methu credu na wnes i ffys! Jyst gadael.
Fues i'n gweithio fel cyflwynydd yn y diwydiant teledu am 10 mlynedd cyn sefydlu Telesgop ac yn teithio tipyn nôl a mlaen i Lundain. Gyda babi newydd, o'n i'n teimlo mod i eisiau cael mwy o reolaeth ar fy ngwaith.
Penderfynodd Rich [y cyflwynydd a chynhyrchydd Richard Rees, gŵr Elin] a minnau bod yn rhaid setlo mewn un lle i fagu Ffion, a dyna pryd wnes i ddechre'r cwmni.
Fe ymunodd Richard rai blynyddoedd wedyn, ac hefyd Dyfrig [Davies] sydd bellach yn rheolwr-gyfarwyddwr.
Cyfres am y gofod oedd y gyntaf i mi wneud, a dyna pam mai Telesgop yw'r enw.
Gath Ffion ei magu yn sŵn trafod busnes y cwmni am y chwarter canrif nesaf. Mae hi'n unig blentyn, a bob amser wedi ystyried y cwmni fel ei brawd neu chwaer. Trwy gydol ei magwraeth, fe driodd Rich a fi ddylanwadu arni hi i 'neud unrhyw beth ond bod yn rhan o'r diwydiant.
Er bod cynhyrchu yn fraint anferth, mae'r gwaith yn gystadleuol ac anwadal ac mae diogelu swyddi staff yn gyfrifoldeb enfawr.
Roedd Ffion wedi sôn ei bod hi mo'yn bod yn fferyllydd neu'n ffotograffydd, ond ar ôl iddi adael ysgol a chymryd blwyddyn mas, fe benderfynodd hi ei bod hi mo'yn bod yn olygydd a chynhyrchydd radio. Mae'n siŵr mai oddi wrth ei thad y daeth y ddawn radio!
Doeddwn heb sylweddoli faint oedd hi wedi ei gymryd mewn trwy'i bywyd am faterion busnes a chynhyrchu. Mae ei dealltwriaeth hi o'r diwydiant yn well na fi erbyn hyn, achos mae hi wedi tyfu lan gydag e; mae hi wedi gweld yr effaith mae wedi ei gael arna' i.
Mae olyniaeth yn gallu bod yn double-edged sword. Mae'n anodd i blentyn weithio yn yr un cwmni a'i rieni, mewn unrhyw ddiwydiant. Mi alle rhai pobl ddweud, 'mae hi wedi ei etifeddu fe' ond y gwir yw, mae'n gorfod gweithio yn fwy caled i brofi ei hunan.
Menyw mewn busnes
Fel menyw yn rhedeg busnes, o'dd rhaid i fi weithiau fod yn fwy formidable nag ydw i mewn gwirionedd.
Wrth ddelio gyda'r banc, er enghraifft, os oedd Rich yn dod gyda fi i gyfarfodydd, roedd pob sylw ac ateb yn cael ei gyfeirio ato fe, er mai fi oedd yn gofyn y cwestiynau!
Yn y blynyddoedd cynta' nes i dreulio amser yn ffonio cwmnïau a darlledwyr yn esbonio mai fi oedd yn gyfrifol am y cwmni, ac nid Rich. Oedd hyn yn fy nghael i lawr weithiau, ond yn y pen draw rhaid 'neud beth sydd angen i sicrhau bod y cwmni yn llwyddo.
Erbyn hyn dwi'n meddwl ei bod hi'n fwy anodd i fod yn berson hŷn nag yw hi i fod yn fenyw [yn y cyfryngau]. Mae yna duedd i feddwl bod rhywun yn hen ffasiwn, neu'n anhyblyg. Yn ogystal, mae newidiadau yn y diwydiant wedi digwydd droeon o'r blaen, ac mae rhywun mewn oed wedi clywed yr un hen drafodaethau fel tiwn gron ac mae perygl mynd yn chwerw.
Mae hi'n bwysig symud naill ochr i ganiatáu i'r gwaed creadigol newydd lifo ac i bobl eraill arwain mewn ffyrdd newydd. Mae gan Ffion syniadau hollol wahanol i fi, dim owns o chwerwder, ac rwy'n gweld ynddi yr un egni a oedd gen i chwarter canrif yn ôl.
Felly, dwi nawr yn fam-gu i'r cwmni - ac yn fam i Ffion. Ac fel pob mam-gu, byddai yno i helpu, ond fel pob mam dwi angen rhyddhau'r plentyn i dorri cwys ei hun.
Un peth hyfryd am weithio gyda dy blentyn yw ei gweld hi'n esblygu, lle 'dyw y rhan fwya' o rieni ddim yn gweld eu plant yn y byd gwaith. Yn ddiweddar, aeth Ffion a fi i Houston, fe fuon ni'n siarad â NASA veterans yn eu 80au o gyfnod Apollo. Ro'n i mewn dagrau ar ôl gweld effaith hwnna ar Ffion, am ei bod hi wedi cael ei hysbrydoli.
'Dyw Ffion ddim yr un math o berson â fi, dwi'n gallu bod yn danllyd ond mae Ffion yn meddwl yn ddwfn ac mae ganddi well greddf na fi.
Dwi'n ffyddiog bod y cwmni mewn dwylo da.
Ffion Rees - 'Fi'n ei hedmygu hi yn fawr iawn, achos mae'n golygu bod e'n lot yn haws i fi.'
Mae Ffion Rees yn 27 oed, yn olygydd a chynhyrchydd radio, ac erbyn hyn yn un o gyfarwyddwyr cwmni Telesgop:
Dwi'n teimlo fe'n fraint bod Mam yn rhoi'r ffydd yndda i i fod yn un o gyfarwyddwyr y cwmni. Mae'n rhywbeth eitha' sbeshal.
Ni wastad wedi galw'r fusnes yn 'frawd bach'. Tase ti'n fwtshwr neu mewn unrhyw gwmni teuluol arall, mae'n naturiol bod y plentyn yn camu mewn, ond yn y byd teledu, os wyt ti'n mynd mewn i gwmni dy rieni mae pobl yn meddwl bron bod e'n cop out.
Mae Mam yn fenyw fusnes a dwi'n gwybod y bydde hi ddim yn caniatau i fi i barhau os nad on i'n gallu neud y gwaith. Bydde hi'n fy nghyngori i drio rhywbeth arall!
Mae hi'n berson doniol iawn, ac mae'n garedig. Pan o'n i'n blentyn, o'n i'n mynd mewn i'r swyddfa ar ôl ysgol, ac oedd pobl wastad mewn a mas gyda Mam. Fi'n cofio lot o chwerthin, mae pobl yn joio gweithio gyda hi a mae ganddi amser i bawb.
Mae hi'n gweithio yn galed iawn iawn, a mae hi wedi pasio hwnna mlaen i fi. Fi'n ymwybodol iawn ei bod hi wastad yn cymryd gofal o bopeth mae'n 'neud, a mae hwnna wedi cael dylanwad mawr arna i.
Teulu agos
Mae Mam a Dad wedi cael effaith fawr arna i, dwi'n unig blentyn ac mae fy rhieni hefyd yn unig blant, felly ni'n deulu agos. Ni wedi tueddu i 'neud popeth gyda'n gilydd.
Dydy Mam erioed wedi cuddio gwaith wrthai, felly fi wedi gweld yr amseroedd caled a'r amseroedd hapus. Mae hi wastad wedi bod yn hollol onest ac yn dangos rhwystredigaeth, er enghraifft os ydy hi wedi cael ei thrin yn wahanol achos ei bod hi'n fenyw, felly dwi wedi bod yn ymwybodol ohono fe o'r dechre.
Yn fwy diweddar dwi wedi dod yn fwy ymwybodol o'r problemau all godi achos mod i wedi gofyn mwy o gwestiynau.
Dwi 'di bod yn holi shwt mae hi wedi delio gyda phethe yn y gorffennol. A dwi wedi sylwi mor gefnogol mae Dad wedi bod i Mam hefyd.
Fi'n credu bod yr hyn mae'r genhedlaeth o fenywod o'n flaen i wedi llwyddo i 'neud yn eitha' anhygoel. Fi'n gallu dychmygu bod e wedi bod yn anodd, ac wedi eu gwneud nhw'n grac a wedi brifo ar adegau. Dwi wedi gweld hyn yn digwydd i Mam - mae hi'n gryf.
Fi'n edmygu hi yn fawr iawn achos mae'n golygu bod beth aeth hi drwyddo yn neud e'n haws i fi. Y'n ni (fel merched) yn dal i orfod brwydro wrth gwrs, ond dim cymaint â chenhedlaeth Mam.
Fel Mam a merch, ry'n ni'n agos iawn.
Hefyd o ddiddordeb: