Yr Uchel Lys yn rhoi hawl i fabi gael trallwysiad gwaed
- Cyhoeddwyd
Mae'r Uchel Lys wedi penderfynu bod yn rhaid i fachgen tair wythnos oed sy'n fabi i dyst Jehova gael trallwysiad gwaed.
Dywedodd y barnwr Mr Ustus MacDonald mai hyn fyddai orau i'r babi, er nad oedd y fam wedi rhoi caniatâd.
Fe oedd penaethiaid Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi gofyn i'r barnwr roi'r hawl i feddygon fwrw 'mlaen gyda'r broses gan fod ei angen ar frys.
Dywedodd y barnwr fod y dystiolaeth yn dangos fod y bachgen yn sâl iawn, ac y gallai farw oni bai am drallwysiad.
Cafodd y penderfyniad ei wneud yn Adran Deuluol yr Uchel Lys yn Llundain dros wythnos yn ôl.
Mae'r barnwr nawr wedi cyhoeddi ei resymau am y penderfyniad, gan amlinellu'r manylion.
Fe wnaeth hefyd osod gwaharddiad rhag cyhoeddi unrhyw fanylion fyddai'n arwain at adnabod y babi, ond gan ganiatáu enwi'r bwrdd iechyd.
Pam y gwrthwynebiad?
Mae tystion Jehova yn draddodiadol yn gwrthwynebu trallwysiad gwaed gan ddweud fod hyn yn deillio o'r Beibl.
Dywed eu gwefan fod yr Hen Destament a'r Testament Newydd yn dweud y dylai pobl atal rhag cymryd gwaed.
"Mae Duw yn gweld gwaed yn cynrychioli bywyd. Felly rydym yn osgoi cymryd gwaed nid yn unig er mwyn ufuddhau i Dduw, ond hefyd fel parch tuag yr un sy'n caniatáu bywyd."