Codi arian i gwmni teganau Cymraeg sy'n wynebu mynd i'r wal
- Cyhoeddwyd
Mae perchennog busnes o Ynys Môn wedi diolch am roddion ariannol gan bobl ddiarth ar ôl cael ei thwyllo o £18,000.
Fe gafodd Awena Walkden sy'n berchen cwmni Si-lwli ym Mhorthaethwy ei "sgamio'n soffistigedig" wrth geisio prosesu taliad ariannol ar-lein.
Roedd bron i'r cwmni - wnaeth greu'r tegan cyntaf sy'n canu yn Gymraeg - orfod dod â'r busnes i ben o ganlyniad i'r twyll.
Ond nawr a hithau'n gyfnod y Nadolig, mae Si-lwli dal i weithredu - yn bennaf o ganlyniad i roddion gan gwsmeriaid a phobl ddiarth.
Yn ôl Ms Walkden roedd y rhoddion wedi ysbrydoli hi a'i gŵr i "barhau gyda'r cwmni a chynhyrchu adnoddau Cymraeg i blant".
Twyllwyr
Fe gollodd Si-lwli'r arian ar ôl gofyn i gwmni o China greu un o'r teganau.
Dywedodd Ms Walkden bod rhywun wedi rhyng-gipio e-byst rhyngddi hi a'r ffatri yn China oedd yn cynhyrchu'r tegan Draigi.
"Mae'n ymddangos bod rhywun wedi bod yn edrych ar bob un e-bost ac yn stopio ambell un ac yn newid peth gwybodaeth o fewn yr e-bost," meddai.
Dywedodd fod y ffatri wedi anfon e-bost at Si-lwli gyda manylion banc er mwyn talu £18,000 am y teganau, ond fod y twyllwyr wedi newid y manylion yna.
"Roedd hi'n edrych fel bod rhaid i ni roi'r gorau iddi, roedden ni'n teimlo'n fflat," meddai Ms Walkden.
"Ond, roedd yr holl negeseuon gafon ni gan bobl yn codi ein calonnau ac yn gwneud i ni fod eisiau bwrw ymlaen."
Un o gwsmeriaid Si-lwli oedd yn gyfrifol am sefydlu'r dudalen i godi arian i'r cwmni.
Dywedodd Nikita Jain o Benrhyndeudraeth, sy'n fam i ddau o blant, ei bod wedi "colli cwsg" ar ôl clywed am yr hyn ddigwyddodd i'r cwmni.
'Angerddol'
Dywedodd Ms Jain: "Rydw i wedi bod yn ffan enfawr o'r cwmni ers iddo gael ei sefydlu.
"Mae fy mhlant yn amlieithog, dwi'n angerddol iawn am ieithoedd. Pan glywais i'r newyddion doeddwn i methu â chysgu'r noson honno.
"Rydym angen rhagor o deganau Cymreig ar y farchnad - doeddwn i methu ag eistedd a gweld y perchnogion yn dioddef am rywbeth nad oedd bai arnyn nhw o gwbl.
"Dyna pam sefydlais y dudalen codi arian. Mae'r ymateb wedi bod yn wych ac rydym wedi casglu bron i £1,700.
"Mae'n dangos faint o bobl sydd eisiau achub y cwmni. Dwi'n gobeithio gallwn gasglu digon er mwyn cadw'r cwmni i fynd er mwyn iddyn nhw lwyddo i brynu rhagor o stoc."
Bellach mae'r cwmni wedi llwyddo i wneud ychydig o elw unwaith eto.
Ychwanegodd Ms Walkden: "Allai ond diolch o waelod calon i bawb am ein hysbrydoli i gario ymlaen a sylweddoli pa mor bwysig yw cael adnoddau Cymraeg i blant.
"Mae angen mwy o adnoddau tebyg er mwyn cyrraedd y miliwn o siaradwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2019