Carcharu dyn o Bontypridd am 158 o droseddau rhyw
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Bontypridd oedd yn defnyddio cyfres o wefannau cymdeithasol i annog plant i gyflawni gweithredoedd rhywiol wedi cael ei garcharu.
Fe ddefnyddiodd Owain Thomas, 29 oed, wefannau Facebook, Skype a gemau ar-lein amrywiol er mwyn perswadio 146 dioddefwr i gyflawni'r gweithredoedd.
Cafodd ei arestio ym mis Tachwedd 2018 ar ôl gofyn i grŵp o blant mewn parc yn Glynrhedynog, Rhondda Cynon Taf i dynnu eu dillad.
Cafodd Thomas, sydd â gradd yn y gyfraith o Brifysgol Aberystwyth, ei ddedfrydu i 10 mlynedd yn y carchar yn Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Gwener.
Dywedodd y barnwr, Richard Twomlow, ei fod yn "droseddwr peryglus ac yn risg sylweddol i'r cyhoedd" ac y byddai'n treulio pum mlynedd ar drwydded yn dilyn ei gyfnod dan glo.
Fe wnaeth Thomas bledio'n euog i 158 cyhuddiad o droseddau rhyw amrywiol mewn gwrandawiad blaenorol.
Mae'r cyhuddiadau'n cynnwys annog plant i gymryd rhan mewn gweithredoedd rhywiol, gwylio gweithredoedd rhywiol, bod â delweddau anweddus yn ei feddiant a rhannu delweddau anweddus.
Clywodd y llys bod Thomas yn esgus bod yn blentyn ifanc ar-lein er mwyn annog plant i gyflawni gweithredoedd rhywiol a'u recordio. Byddai'r delweddau hyn wedyn yn cael eu rhannu gyda phedoffiliaid eraill.
Fe ddaeth ymchwiliad Heddlu De Cymru o hyd i 110 awr o ddeunydd fideo anweddus ar ddyfeisiau Thomas.
Cafodd y troseddau eu disgrifio fel rhai "digynsail" gan yr heddlu.