Côr o Gymru ydy Côr y Byd Eisteddfod Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Aled Roberts a Dylan Glyn WilliamsFfynhonnell y llun, Aled Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Aled Roberts a Dylan Glyn Williams, mab cyn-arweinydd Côr Orffiws Y Rhos, John Glyn Williams ar y llwyfan neithiwr

Côr o Gymru sydd wedi cipio'r brif wobr corawl a thlws Luciano Pavarotti yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.

Côr Dynion Johns Boys o Rhosllanerchrugog ydy'r trydydd cor o Gymru i gipio teitl Côr y Byd.

Ar y prif lwyfan nos Sadwrn fe dderbyniodd y côr eu gwobr ar ôl curo enillwyr y pedwar cystadleuaeth corawl arall i oedolion.

Roedd côr CF1 o Gaerdydd hefyd yn y rownd derfynol ar ôl ennill y gystadleuaeth Côr Cymysg yn gynharach dydd Sadwrn.

"Roedd hi'n brofiad anhygoel ac eithaf emosiynol ar y llwyfan neithiwr," meddai Aled Roberts sy'n aelod o'r côr. "Ond eto roedd hi'n brofiad braf, gan wybod ein bod ni wedi dod i'r brig mewn cystadleuaeth o safon uchel."

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd côr Meibion Johns Boys yn cystadlu nesaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst

Cafodd Côr Dynion Johns Boys eu ffurfio tair blynedd yn ôl er mwyn perfformio mewn Noson Lawen yn y Stiwt yn Rhos, er cof am ddau o arweinwyr corawl yr ardal, sef John Glyn Williams a John Tudor Davies.

Ers hynny mae'r criw, sy'n ymarfer unwaith y mis gan amlaf, wedi profi tipyn o lwyddiant, gan ddod i'r brig yng nghystadleuaeth y Corau Meibion yng nghystadleuaeth Côr Cymru eleni.

"Dod at ein gilydd nethon ni yn wreiddiol i berfformio yn y noson arbennig i gofio'r ddau John", meddai Mr Roberts, "ac yna roedd yna nifer ohonon ni'n teimlo ein bod ni eisiau parhau i ganu efo'n gilydd.

"Mae'r côr yn eithriadol o bwysig i ni i gyd, achos mae gan y mwyafrif gysylltiad â'r Rhos, ac mae'r côr hwn yn parhau gyda'r traddodiad yna sydd gennym ni yn y dre o gorau meibion."

Cywair, o Gastell Newydd Emlyn, oedd y côr diwethaf o Gymru i gipio'r brif wobr, a hynny yn 2005. Fe wnaeth y Sirenian Singers o Wrecsam ennill y teitl yn 1998.