Mam i dri o blant wedi marw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr

  • Cyhoeddwyd
Laura DaviesFfynhonnell y llun, Laura Davies
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Laura Davies yn feiciwr modur profiadol

Mae menyw wedi marw ar ôl disgyn oddi ar ei beic modur ar drac rasio dros y penwythnos.

Bu farw Laura Davies, 39, ar ôl cael anafiadau difrifol i'w phen mewn gwrthdrawiad yn Pembrey Circuit, Sir Gâr am tua 16:40 ddydd Sul.

Cafodd Ms Davies, sy'n fam i dri o blant, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd ond bu farw yn ddiweddarach.

Dywedodd Phil Bevan Trackdays, y cwmni oedd yn gyfrifol am drefnu'r digwyddiad, nad oedd unrhyw un arall yn rhan o'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, Alan Hughes/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd perchnogion y trac rasio eu bod nhw'n "cydymdeimlo'n arw" gyda theulu a ffrindiau Ms Davies

Mewn datganiad, nododd y cwmni ei bod hi wedi disgyn oddi ar ei beic wrth fynd o gwmpas un o gorneli'r trac.

Mae bron i £8,000 eisoes wedi cael ei gasglu ar dudalen codi arian ar-lein yn ei henw.

Bydd criw o feicwyr modur yn cwrdd yn Hwlffordd nos Fercher ar gyfer digwyddiad arbennig i gofio am Ms Davies.