Carwyn Jones wedi gadael Sargeant i lawr, medd ei weddw

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Carl Sargeant yn AC Alun a Glannau Dyfrdwy yn 2003

Mae gweddw Carl Sargeant wedi dweud wrth gwest i'w farwolaeth bod ei gŵr wedi teimlo bod y prif weinidog Carwyn Jones wedi ei "adael i lawr".

Wrth roi tystiolaeth ddydd Mawrth, dywedodd Bernie Sargeant bod ei ddiswyddiad wedi dod fel "sioc lwyr" iddo a'i fod wedi "ysu am wybodaeth" ynghylch y rheswm pam.

Fe wnaeth hi hefyd ddisgrifio'r foment "erchyll" pan gafodd gadarnhad gan barafeddygon bod ei gŵr wedi marw.

Cafodd Mr Sargeant, cyn-weinidog yn Llywodraeth Cymru, ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd 2017, bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo gan y prif weinidog Carwyn Jones.

Ar y pryd roedd yn wynebu honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at fenywod, honiadau roedd o'n ei wadu.

'Allan o'i ddyfnder'

Wrth drafod amgylchiadau ei ddiswyddiad, dywedodd Bernie Sargeant fod y ddau ohonynt newydd ddychwelyd o wyliau yn Efrog Newydd pan gafodd ei alw lawr i Gaerdydd ar ddydd Gwener i'r ad-drefnu cabinet.

Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw cafodd alwad ffôn gan ei gŵr yn dweud ei fod wedi colli'i swydd yn y cabinet fel yr Ysgrifennydd Cymunedau, a'i wahardd o'r blaid Lafur.

Soniodd wrthi fod honiadau wedi cael eu gwneud yn ei erbyn, gan wadu'n gryf "i'r prif weinidog, i mi ac i'r plant" ei fod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Clywodd y cwest yn Rhuthun bod Bernie Sargeant wedi derbyn llythyr gyda honiadau am ei gŵr yn 2013, ond eu bod wedi "siarad am y peth" ac nad oedd hi'n credu'r cynnwys.

Disgrifiad o’r llun,

Mab Carl Sargeant, Jack (chwith) a'i wraig weddw, Bernadette Sargeant (ail o'r chwith) yn cyrraedd y cwest fore Llun

Dywedodd bod Carwyn Jones, y prif weinidog ar y pryd, yn ymwybodol o'r problemau iechyd meddwl roedd Carl Sargeant wedi'u cael yn y gorffennol.

Yn dilyn ei ddiswyddiad, dywedodd Bernie Sargeant bod Carl Sargeant yn teimlo "allan o'i ddyfnder" a'i fod wedi chwilio am gyngor cyfreithiol.

Mewn swyddi eraill, meddai, byddai rhywun yn sefyllfa ei gŵr wedi gallu troi at adran adnoddau dynol o bosib am gymorth.

"Dwi ddim yn gwybod os oedd angen hynny arno, ond dwi'n meddwl y byddai wedi hoffi cael y cynnig yna," meddai.

Ychwanegodd ei fod yn swnio'n "ddagreuol" mewn sgwrs ddiweddarach, ac fe wnaeth y teulu deithio lawr i Gaerdydd i dreulio'r penwythnos gydag ef.

Pan gyrhaeddon nhw, dywedodd Bernie Sargeant bod Carl Sargeant yn edrych yn "hollol wahanol" i'r dyn oedd wedi gadael y tŷ'r bore hwnnw.

"Roedd e'n edrych yn welw. Doedd dim lliw ynddo... roedd wedi colli ei nerth, ac nid dyna pwy yw Carl," meddai,

Dywedodd fod Mr Sargeant wedi ceisio cysylltu â'r Blaid Lafur "ar sawl achlysur" ond na chafodd ateb.

Ar y ffordd adref fore Llun cafodd Mr Sargeant ergyd bellach, meddai, ar ôl cael neges ffôn yn dweud bod y prif weinidog bellach wedi cyfeirio at yr honiadau fel "digwyddiadau".

'Erchyll'

Ar y bore dydd Mawrth dywedodd Bernie Sargeant ei bod wedi deffro am 07:00 a bod Carl Sargeant i lawr grisiau. Daeth i fyny ati am gyfnod, ond fe ddeffrodd hi eto am 10:30 a doedd o ddim yno.

Dywedodd iddi fynd lawr i'r gegin a gweld nodyn ar y drws yn arwain at yr ystafell peiriant golchi yn dweud i beidio mynd mewn, ac i ffonio'r heddlu.

"Dwi'n cofio sgrechian am Lucy, " meddai, cyn i'w merch geisio ei achub. "Roedd Carl yn ddyn mor fawr ac roedden ni'n ceisio ei symud."

Fe wnaeth Jack Sargeant ffonio aelodau eraill o'r teulu, ond doedd dim modd ei achub ac fe wnaeth parafeddygon gadarnhau fod Mr Sargeant wedi marw.

"Roedd yn erchyll," meddai Bernie Sargeant.

Gofynnodd y crwner John Gittins wrthi a oedd hi wedi dychmygu y byddai ei gŵr yn gwneud rhywbeth o'r fath.

"Na," meddai. "Dwi jyst yn gwybod beth oedd effaith y dyddiau diwethaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r crwner wedi dweud mai'r flaenoriaeth fydd "darganfod sut yn union fu farw Mr Sargeant, ac nid pam"

Fe wnaeth y crwner ddarllen y nodyn gafodd ei adael gan Mr Sargeant, ble roedd o'n ymddiheuro am ei weithredoedd a dweud ei fod wedi'u gadael nhw lawr.

Dywedodd Bernie Sargeant ei bod hi'n credu fod yr ymddiheuriad yn ymwneud â lladd ei hun.

Mewn ymateb i awgrym y crwner fod "dehongliad arall", dywedodd Bernie Sargeant: "Nes i ddweud, 'drycha Carl, wyt ti wedi gwneud hyn?' ac fe ddywedodd e 'na'. Dwi dal yn credu na wnaeth o unrhyw beth."

Wrth dalu teyrnged i'w gŵr, dywedodd: "Roedd yn wleidydd ond roedd o'n dad, a'r rhodd fwyaf a roddodd i mi erioed ydy Lucy a Jack."

Ychwanegodd: "Ddylai hyn ddim bod wedi digwydd i ni. Dwi'n credu y dylen ni fod wedi cael rhyw fath o gefnogaeth... rydyn ni ar ein pen ein hunain fan hyn."

'Gadael i lawr'

Wrth gael ei holi gan Cathryn McGahey QC, dywedodd Bernie Sargeant bod Carl Sargeant a Carwyn Jones yn "gydweithwyr" ond ddim yn "ffrindiau fel gwleidyddion eraill".

Dywedodd bod Mr Sargeant un yn o'r rhai oedd wedi helpu Mr Jones i ddod yn brif weinidog, ond yn nes ymlaen roedd o'n ei "chael hi'n anoddach" siarad gyda Mr Jones pan oedd angen rhywbeth arno.

"Dwi'n meddwl yn y diwedd bod Carl yn teimlo bod Carwyn wedi ei adael i lawr," meddai.

Dywedodd hefyd nad oedd hi wedi clywed am unrhyw honiadau fod Mr Sargeant wedi camymddwyn, oni bai am y llythyr dienw a dderbyniodd hi unwaith.

Wrth gyfeirio at "ddigwyddiad" yn eu bywydau oedd wedi cael ei grybwyll yn gynharach yn y cwest, gofynnodd Ms McGahey a oedd y teulu wedi gorfod cael cymorth proffesiynol yn dilyn hynny.

Dywedodd Mrs Sargeant nad oedd hi'n gyfforddus yn ateb cwestiynau ar y mater, cyn dweud eu bod nhw wedi cael cymorth proffesiynol "yn y diwedd, nid ar y dechrau".

Yn ôl Ms McGahey roedd hyn yn dystiolaeth bod Carl Sargeant a'i deulu yn gwybod lle i chwilio am help os oedd ei angen arnynt.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bernie Sargeant bod gan ei gŵr ddawn fel gwleidydd i "gysylltu gydag unrhyw un"

Ond dywedodd Bernie Sargeant bod ei gŵr "dal mewn sioc" yn dilyn ei ddiswyddiad, ac nad oedd hi'n hawdd cael help os oeddech chi'n berson adnabyddus neu ei fod yn cynnwys sesiynau grŵp.

Ychwanegodd nad oedd hi wedi cael unrhyw ffrae gyda Mr Sargeant dros y penwythnos cyn ei farwolaeth, a'i bod hi "yno i'w gefnogi".

Cafodd hefyd ei holi sawl gwaith gan Ms McGahey ynglŷn ag ystyr y neges gafodd ei adael gan Mr Sargeant ble roedd yn ymddiheuro.

Mynnodd Bernie Sargeant ei bod hi o'r farn mai cyfeirio at amgylchiadau ei farwolaeth oedd ei gŵr, yn hytrach na'r honiadau yn ei erbyn.

Ddydd Llun clywodd y cwest dystiolaeth gan Ann Jones AC, wnaeth wadu ei bod hi wedi cael rôl fel gofalwr bugeiliol i Carl Sargeant yn y dyddiau cyn ei farwolaeth.

Wrth roi ei dystiolaeth yntau i'r cwest, dywedodd y cyn-brif weinidog Carwyn Jones ei fod yn credu bod Ms Jones yn gofalu am Mr Sargeant, a'i fod yn "synnu nad oedd hi'n gweld y sefyllfa yn yr un ffordd".

Cafodd y cwest ei ohirio'r llynedd ar ôl i gyfreithwyr ar ran Mr Jones wneud her gyfreithiol - her gafodd ei wrthod yn y pendraw.

Os ydych chi'n cael trafferthion gyda materion yn y stori yma, gallwch ffonio'r Samariaid ar eu llinell ffôn iaith Gymraeg ar 0808 164 0123.

Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth ar wefan arbennig BBC Action Line.