Cwest Carl Sargeant: Barnwyr yn gwrthod cais Carwyn Jones

  • Cyhoeddwyd
Carl Sargeant
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carl Sargeant ei ganfod yn farw ar ôl cael ei ddiswyddo fel gweinidog

Mae barnwyr wedi gwrthod cais gan gyn-Brif Weinidog Cymru i orfodi'r crwner yng nghwest Carl Sargeant i ganiatáu tystiolaeth ychwanegol.

Roedd Carwyn Jones am i negeseuon testun - rhwng cyn-Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, Aaron Shotton, a'i ddirprwy, Bernie Attridge - gael eu hystyried.

Clywodd llys yng Nghaerdydd ddydd Iau bod negeseuon yn cynnwys honiadau fod y diweddar Mr Sargeant wedi gwneud rhywbeth a allai fod wedi arwain at gyfnod o garchar.

Ond fe benderfynodd barnwyr fod y crwner wedi gweithredu'n gywir.

Fe gafodd Mr Sargeant ei ganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ym mis Tachwedd 2017, bedwar diwrnod ar ôl cael ei ddiswyddo gan Mr Jones fel gweinidog yn Llywodraeth Cymru.

Roedd yn wynebu honiadau o ymddygiad amhriodol tuag at ferched. Roedd Mr Sargeant yn gwadu'r honiadau.

Daeth y cwest, sydd wedi'i ohirio nes mis Gorffennaf, i ddyfarniad cychwynnol bod Mr Sargeant wedi marw achos crogi.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carwyn Jones wedi herio penderfyniad y crwner i beidio ystyried tystiolaeth gan Aaron Shotton a Bernie Attridge

Dywedodd Cathryn McGahey, oedd yn cynrychioli Mr Jones, y byddai'r cwest yn "anghyflawn" ac "unochrog" pe na bai'r negeseuon yn cael eu cynnwys.

"Yn fy mhrofiad i dydy hi ddim yn arferol i grwner sy'n ymchwilio i hunanladdiad beidio edrych ar y ffactorau wnaeth arwain yr unigolyn yna i ladd ei hun," meddai.

"Rydyn ni'n dweud bod gan Bernie Attridge wybodaeth berthnasol iawn am beth wnaeth achosi Mr Sargeant i gymryd ei fywyd ei hun.

"Roedd yn gwybod am faterion oedd yn poeni meddwl Mr Sargeant.

"Yr hyn sydd gennym ydy trafodaeth rhwng dau dyst annibynnol sy'n gwybod yr hyn maen nhw'n siarad amdano."

'Tybiaeth yn unig'

Ond dywedodd Sophie Cartwright ar ran y crwner mai ceisio canfod ffeithiau yn unig mae'r cwest, ac nad oes angen gwybod pam fod Mr Sargeant wedi lladd ei hun i gyrraedd canlyniad o hunanladdiad.

Dywedodd yr Arglwydd Ustus Haddon-Cave bod y Crwner John Gittins wedi gweithredu'n gywir wrth atal y negeseuon rhag bod yn rhan o'r cwest, gan ddweud mai "tybiaeth" yn unig oedden nhw.

Mae disgwyl i'r cwest ailddechrau ar 8 Mehefin.