Cytundeb newydd i Alun Wyn Jones gyda'r Gweilch

  • Cyhoeddwyd
Alun Wyn JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alun Wyn Jones wedi cael ei gysylltu gyda chlybiau yn Lloegr

Mae capten tîm rygbi Cymru, Alun Wyn Jones wedi arwyddo cytundeb deuol newydd i'w gadw gyda'r Gweilch nes Mehefin 2021.

Mae'r cyhoeddiad yn dod â misoedd o ansicrwydd am beth fydd dyfodol y clo ar ôl Cwpan y Byd Japan yn ddiweddarach eleni i ben.

Bydd Jones, 33, yn parhau ar gytundeb deuol gydag Undeb Rygbi Cymru a'r Gweilch.

Fe wnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf i'r rhanbarth yn 2005, ac mae wedi bod yno ar hyd ei yrfa.

Bydd y chwaraewr ail reng, sydd wedi ennill 125 cap dros Gymru a naw dros y Llewod, yn chwarae rhan allweddol yn nhîm Cymru yng Nghwpan y Byd yn yr hydref.

"Dyma'r penderfyniad cywir ar gyfer fy ngyrfa ar hyn o bryd, ynghyd â fy ngobeithion oddi ar y cae, fy lles ac anghenion fy nheulu," meddai Jones.