Teyrngedau i ddyn yn dilyn marwolaeth clwb rygbi
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn 40 oed fu farw yn dilyn digwyddiad yng Nghlwb Rygbi Tredegar Newydd wedi'i ddisgrifio fel gŵr a thad "cariadus a charedig".
Cadarnhaodd yr heddlu mai Kerry Morgan oedd enw'r gŵr a fu farw, a'i fod yn dod o ardal Tredegar Newydd.
Dywedodd ei deulu mewn datganiad: "Rydym yn torri'n calonnau, ef oedd ein bywyd a chariad fy mywyd.
"Roedd e'n ŵr a thad gwych, caredig a chariadus. Ef oedd y 'dada' gorau yn y byd.
"Fe fydd gyda ni bob dydd, wastad yn ein calonnau a byddwn yn ei golli'n ofnadwy. Byddwn yn dy garu am byth."
Cafodd yr heddlu eu galw i Glwb Rygbi Tredegar Newydd tua 23:45 nos Sadwrn yn dilyn adroddiadau o ffrwgwd.
Yn ôl yr heddlu roedd Mr Morgan yn anymwybodol ac wedi stopio anadlu pan gyrhaeddodd y swyddogion y lleoliad, ac er gwaethaf ymdrechion i'w achub cyhoeddwyd ei fod wedi marw ychydig yn ddiweddarach.
Mae dau ddyn 41 a 61 oed o ardal Caerffili, gafodd eu harestio ar y noson ar amheuaeth o lofruddiaeth, bellach wedi cael eu rhyddhau tra bo'r ymchwiliad yn parhau.
Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2019