Gwrthod llyfr am Gwpan Rygbi'r Byd yn 'sarhau' y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae un o olygyddion Y Lolfa ac awdur llyfr newydd wedi beirniadu penderfyniad World Rugby i'w rhwystro rhag cyhoeddi llyfr am Gwpan Rygbi'r Byd 2019 yn Japan.
Dywedodd awdur y llyfr, Keith Davies wrth raglen Newyddion 9 bod y penderfyniad yn dangos "agwedd sarhaus a gwarthus y cwmni" tuag at ieithoedd lleiafrifol.
Fe wnaeth World Rugby wrthod cais Lefi Gruffudd ar ran y Lolfa i ddefnyddio lluniau sy'n cyd-fynd â'r gystadleuaeth ar y sail y byddai hynny'n amharu ar fasnach cwmnïau sydd eisoes â thrwyddedau.
Ychwanegodd IMG Licensing - cynrychiolwyr World Rugby - mai Japaneaidd a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y gystadleuaeth.
'Gweithio ers misoedd'
Mae'r Lolfa wedi cyhoeddi sawl llyfr yn y gorffennol ar Gwpan y Byd, gyda'r cynnwys wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc.
Dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gael eu gwrthod i ddefnyddio lluniau Cwpan Rygbi'r Byd.
"Mae'n siomedig iawn i ni. 'Da ni'n amlwg wedi bod yn gweithio ar y llyfr ers misoedd," meddai Mr Gruffudd.
"Mae'n rhwystredig na fyddwn ni'n gallu darparu llyfr fel 'da ni fel arfer yn ei wneud er mwyn i blant gael rhywbeth i ddarllen ar gyfer y gystadleuaeth."
'Amddifadu ieithoedd lleiafrifol'
Roedd Mr Davies yn gobeithio gweld y llyfr yn efelychu llwyddiant yr un iddo ysgrifennu i nodi'r gamp yn 2015.
Mae'n dweud fod y rhwystr yn "golled aruthrol" i blant Cymru.
"Sut mae un llyfr bach yn Gymraeg yn mynd i effeithio ar werthiant byd-eang o nwyddau Cwpan Rygbi'r Byd?" gofynnodd.
"Mae'n dangos agwedd sarhaus a gwarthus y cwmni, ac yn gyffredinol y bobl 'ma sydd ddim yn meindio o gwbl eu bod nhw'n amddifadu ieithoedd lleiafrifol y byd.
"20 o dimoedd, pob gwlad ac o leiaf un iaith leiafrifol - ond na, chewch chi ddim".
Gofynnodd Newyddion 9 am ymateb gan World Rugby ond dydyn nhw ddim wedi rhoi sylw ar y mater.
Ond mewn llythyr at y Lolfa mae un o gyfreithwyr IMG Licenses yn cadarnhau na fydd y cyhoeddwr yn cael yr hawl i ddefnyddio lluniau o Gwpan Rygbi'r Byd.
Maen nhw hefyd yn dweud y bydd Cwpan Rygbi'r Byd yn ystyried pryder Mr Gruffudd ynghylch y ffaith nad oes cyhoeddiad am y gystadleuaeth ar gael yn y Gymraeg.
Daeth cadarnhad gan Arwel Jones o Gyngor Llyfrau Cymru eu bod wedi cyfeirio'r mater at Lywodraeth Cymru.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd20 Mai 2017