Gareth Bennett ddim am fod yn arweinydd nesaf UKIP

  • Cyhoeddwyd
Gareth BennettFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Bennett yn Aelod Cynulliad dros ranbarth Canol De Cymru ers 2016

Mae'r Aelod Cynulliad, Gareth Bennett wedi tynnu ei enw yn ôl yn y ras i fod yn arweinydd nesaf UKIP.

Fe wnaeth Gerard Batten adael y rôl ar ôl bod ynddi am ychydig dros flwyddyn.

Ni wnaeth UKIP ennill yr un sedd yn yr Etholiad Ewropeaidd ym mis Mai.

Dywedodd Mr Bennett ei fod wedi tynnu ei enw yn ôl er mwyn cefnogi ymgyrch Ben Walker.

Mr Bennett a Neil Hamilton yw'r unig ddau aelod UKIP sy'n parhau yn y Cynulliad, ar ôl i David Rowlands adael i ymuno â Phlaid Brexit.