Mark Drakeford yn 'barod i wario £1bn ar gynlluniau'r M4'

  • Cyhoeddwyd
M4Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Nod y comisiwn yw edrych ar syniadau eraill ar sut i fynd i'r afael â'r problemau traffig

Mae Llywodraeth Cymru yn barod i wario £1bn ar ddatrys problemau traffig ar yr M4 o amgylch Casnewydd, yn ôl y Prif Weinidog.

Fe wnaeth Mark Drakeford gefnu ar y cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru o amgylch y ddinas fis diwethaf.

Dywedodd bod cadeirydd y comisiwn sy'n edrych ar syniadau eraill ar sut i fynd i'r afael â'r trafferthion wedi cael sicrwydd nad oes angen poeni am arian.

Daeth i'r amlwg fis diwethaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £114m ers 2013 ar y cynllun i adeiladu ffordd liniaru ar yr M4 o amgylch Casnewydd.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Arglwydd Burns wedi cael sicrwydd nad oes angen iddo boeni am arian

Yr Arglwydd Burns - cadeirydd Ofcom a chyn-Ysgrifennydd Parhaol i'r Trysorlys - sydd â'r dasg o asesu cynlluniau gwahanol ar gyfer lleddfu'r traffig.

Mae'r syniadau hynny'n cynnwys rhai gafodd eu cyflwyno i'r ymchwiliad cyhoeddus ar gyfer y ffordd liniaru, a rhai gafodd eu gwrthod gan yr archwilydd cynllunio.

'Arian ddim am atal ei allu'

Dywedodd Mr Drakeford ei fod wedi rhoi sicrwydd i'r Arglwydd Burns "mai un o'r pethau nad oes angen iddo boeni amdano yw'r ochr ariannol".

"Roedden ni'n barod i wario £1bn ar ddatrys y broblem o amgylch Casnewydd," meddai Mr Drakeford.

"Ef sydd â'r hawl cyntaf i'r biliwn yna i gyd.

"Dydw i ddim eisiau i arian atal ei allu i ddod ymlaen gyda datrysiadau newydd."

Mae disgwyl i'r comisiwn ddarparu ei adroddiad cyntaf yn ddiweddarach eleni.