Ymgais i dorri record byd am y gêm bêl-droed hiraf
- Cyhoeddwyd
Bydd grŵp o bêl-droedwyr yng Nghaerdydd yn ceisio torri record byd am y gêm 11-bob-ochr hiraf erioed er mwyn codi arian ar gyfer elusen canser.
Cafodd Kicking Off Against Cancer ei ffurfio yn 2016 gyda'r nod o roi seibiant i bobl sy'n mynd trwy driniaeth.
Cyn mis Mehefin y record oedd chwarae am 108 awr, a nod yr elusen oedd cynnal y gêm am 135 awr.
Ond fis diwethaf fe wnaeth tîm yn Yr Almaen dorri'r record gan chwarae am 168 awr - wythnos union - felly mae'r criw nawr yn wynebu'r her o fynd 169 awr heb i'r gêm ddod i ben.
Dywedodd Lucie Banks o'r elusen bod y nod newydd wedi eu gwneud yn fwy penderfynol i fwrw 'mlaen gyda'r her.
Bydd y gic gyntaf yn ardal Lecwydd am 18:00 ddydd Sul, gyda'r nod o orffen am 19:00 ddydd Sul nesaf.