Damwain arall i Geraint Thomas ar wythfed cymal y Tour

  • Cyhoeddwyd
Geraint ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint Thomas funud a 12 eiliad y tu ôl i Julian Alaphilippe yn y crys melyn

Mae Geraint Thomas yn parhau yn y pumed safle yn y Tour de France er iddo gael damwain ar yr wythfed cymal ddydd Sadwrn.

15 cilomedr o ddiwedd y cymal fe wnaeth y Cymro a'i gyd-seiclwr Tîm Ineos, Gianni Moscon ddod oddi ar ei beiciau ar ôl llithro ar gornel dynn.

Gyda help ei dîm fe lwyddodd Thomas i ailymuno â'r peleton ychydig gilomedrau'n ddiweddarach, ond bydd pryder ei fod wedi gorfod defnyddio mwy o egni cyn cymal bryniog arall ddydd Sul.

Ar ôl y ras dywedodd y Cymro ei fod yn "iawn" yn dilyn y ddamwain, a'i fod yn "rhwystredig yn fwy na dim".

Thomas De Gendt o Wlad Belg enillodd y cymal tra bo'r Ffrancwr Julian Alaphilippe, orffennodd yn drydydd yn y cymal, yn cymryd y crys melyn gan Giulio Ciccone.

Fe lwyddodd Thomas i orffen yn 10fed yn y cymal er mwyn sicrhau y byddai'n aros yn y pumed safle yn y dosbarthiad cyffredinol.

Dosbarthiad cyffredinol wedi cymal wyth

  1. Julian Alaphilippe (QuickStep) 34 awr, 17 munud 59 eiliad

  2. Giulio Ciccone (Trek Segafredo) + 00' 23''

  3. Thibaut Pinot (Groupama FDJ) + 00' 53''

  4. George Bennett (Jumbo Visma) + 01' 10''

  5. Geraint Thomas (Ineos) + 01' 12''