Dyfarnwr criced mewn coma ar ôl cael ei daro gan bêl
- Cyhoeddwyd

Cafodd Mr Williams ei gludo i'r ysbyty gan ambiwlans awyr wedi'r digwyddiad
Mae dyfarnwr criced mewn coma ar ôl cael ei daro gan bêl yn ystod gêm yn Sir Benfro dros y penwythnos.
Cafodd John Williams, 80, ei gludo i'r ysbyty wedi'r digwyddiad mewn gêm rhwng Arberth a Phenfro brynhawn Sadwrn.
Dywedodd Clwb Criced Penfro mewn datganiad bod y gêm wedi cael ei gohirio ar ôl i Mr Williams dderbyn anaf i'w ben.
Ar ôl cael ei drin gan y gwasanaeth ambiwlans cafodd Mr Williams, sydd hefyd yn ysgrifennydd yng Nghlwb Criced Sir Hundleton, ei gludo gan hofrennydd i Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Cafodd Mr Williams ei roi mewn coma ac mae'n parhau yn yr ysbyty.