Buddsoddwyr preifat 'ddim am gefnu ar y Fargen Ddinesig'

  • Cyhoeddwyd
Pentref Llesiant Llanelli,Ffynhonnell y llun, Hywel Dda/Arch
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cynlluniau ar gyfer Pentref Llesiant Llanelli eu rhyddhau dwy flynedd yn ôl

Nid yw buddsoddwyr preifat am gefnu ar gynllun Bargen Ddinesig Bae Abertawe er gwaethaf y problemau gyda'r datblygiad, yn ôl arweinydd Cyngor Abertawe.

Fe wnaeth adolygiad annibynnol ym mis Mawrth rybuddio y gallai anghydfod ynglŷn â phrif brosiect y cynllun, Pentref Llesiant Llanelli, achosi "diffyg hyder".

Roedd Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi bygwth tynnu nôl o'r cynllun oherwydd diffyg cynnydd.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Stewart bod ymroddiad y buddsoddwyr sector preifat "mor gryf ac erioed", er gwaetha'r "cyfnod heriol".

Nod y fargen gwerth £1.3bn yw hybu twf economaidd yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Mae'r fargen yn gynllun ar y cyd rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU, y pedwar awdurdod lleol, dau fwrdd iechyd, dwy brifysgol a busnesau preifat.

Ffynhonnell y llun, UWTSD
Disgrifiad o’r llun,

Bydd arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu canolfan Yr Egin yng Nghaerfyrddin

Y bwriad oedd denu £673m gan fuddsoddwyr preifat.

Ond nid yw'r arian preifat yma wedi cael ei gadarnhau eto gan fod angen i'r arian cyhoeddus gael ei ryddhau gyntaf.

Ar ddydd Llun fe wnaeth Llywodraethau Cymru a'r DU gyhoeddi eu bod am ryddhau cyfran o'r arian cyhoeddus yma ar gyfer dwy ran o'r cynllun.

Bydd £18m yn cael ei roi i adeiladu Arena Abertawe a chwblhau datblygiadau pellach yng Nghanolfan S4C, Yr Egin yng Nghaerfyrddin.

'Dim tystiolaeth'

Ychwanegodd Mr Stewart: "Nid oes unrhyw dystiolaeth sy'n awgrymu bod ein partneriaid yn y sector preifat, oedd yn ein cefnogi ni yn y gorffennol, wedi cerdded i ffwrdd.

"Mae diwydianwyr, pobl sydd wedi gwneud eu bywoliaeth yn y sector preifat, yn helpu ni i wireddu'r cynllun hwn.

"Mae'r arian o'r sector preifat yn ddibynnol ar arian cyhoeddus yn cael ei ryddhau, ac mae hynny'n rhan o'r broses yr ydyn ni'n ei chanol hi ar hyn o bryd."