Ffrae chwerw rhwng partneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Abertawe
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bedair blynedd ers dechrau'r gwaith at lunio Bargen Ddinesig Dinas Ranbarth Bae Abertawe a dwy flynedd ers i nifer o gyrff cyhoeddus arwyddo'r cytundeb

Mae BBC Cymru wedi gweld tystiolaeth o ffrae chwerw rhwng dau o bartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe - cynllun sydd fod cyfrannu £1.3bn at economi'r ardal.

Mewn llythyr at Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole, wedi cyhuddo Andrew Davies o geisio achosi "gymaint o helynt â phosib" yn hytrach na sicrhau fod cynlluniau ar gyfer pentref Llesiant yn Llanelli yn symud ymlaen.

Mae hyn yn dilyn llythyr blaenorol gan Mr Davies, ble wnaeth ef gwestiynu gwybodaeth gafodd ei roi gan Brif Weithredwr Cyngor Sir Gâr, Mark James, ynglŷn â'r pentref llesiant.

Mae'r cynllun - sy'n derbyn £40m gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru - yn cynnwys adnoddau hamdden, addysg ac iechyd.

Roedd y llythyr wedi ei anfon at Rob Stewart, cadeirydd cyd-bwyllgor y Fargen Ddinesig, yn rhinwedd ei swydd fel cadeirydd y Bwrdd Iechyd.

Yn y llythyr, mae Mr Davies - sy'n gyn-weinidog Llafur yn Llywodraeth Cymru - yn dweud bod "hyder ac ymddiriedaeth wedi ei danseilio yn sgil digwyddiadau diweddar".

Mae pum aelod o staff Prifysgol Abertawe wedi cael eu hatal o'u gwaith yn sgil ymchwiliad mewnol i gysylltiadau honedig gyda phrosiect y pentref llesiant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Andrew Davies wedi gwadu ystyriaethau gwleidyddol

Erbyn hyn, mae Mr Davies wedi ymddiswyddo fel cadeirydd y Bwrdd Iechyd, ond mae'n parhau yn ei swydd dros dro.

Mae'n dweud ei fod wedi dewis ymddiswyddo ymhell cyn anfon y llythyr.

Mae Cyngor Sir Gâr wedi dweud eu bod nhw'n ystyried cymryd camau cyfreithiol ynglŷn â chynnwys y llythyr.

'Achosi helynt'

Wrth ymateb i honiadau Mr Davies, mae arweinydd Cyngor Sir Gâr, Emlyn Dole, yn disgrifio ei sylwadau fel "ymosodiad rhyfeddol ar Brif Weithredwr ein Cyngor Sir".

Mae'n wfftio nifer o honiadau Mr Davies, ac yn ei gyhuddo o "geisio achosi gymaint o helynt â phosib, yn hytrach na cheisio symud ymlaen gyda'r cynllun sydd yn mynd i fod o fudd mawr i'r rhanbarth".

Fe fynegodd y cynghorydd Dole bryder bod y llythyr wedi cael ei ryddhau i'r wasg.

Mae aelod cynulliad Plaid Cymru dros orllewin a chanolbarth Cymru, Helen Mary Jones, wedi dweud y "gellid dehongli" ymyrraeth Andrew Davies fel gweithred wleidyddol.

Mae hi'n cwestiynu hefyd pam na wnaeth godi pryderon yn uniongyrchol gyda Chyngor Sir Gâr.

Mae Mr Davies wedi dweud wrth BBC Cymru ei fod e'n gwadu bod ei lythyr wedi ei ysgogi gan ystyriaethau gwleidyddol, a taw ei unig bryder oedd tynnu sylw at dryloywder y Fargen Ddinesig a gwneud yn siŵr "fod pethau yn cael eu gwneud yn iawn".

Fe ddywedodd Mr Davies fod yna ddim cysylltiad rhwng ei lythyr a gwleidyddiaeth plaid.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o'r cynlluniau ar gyfer Pentref Llesiant Llanelli

Ychwanegodd bod adolygiadau mewnol ac allanol diweddar wedi "cefnogi ei bryderon".

Mynnodd Mr Davies ei fod yn gadeirydd Bwrdd Iechyd, diduedd, a oedd yn ceisio codi pryderon am lywodraethant.

Gwrthododd Llywodraeth Cymru wneud unrhyw sylw am y ffrae.

Mae arweinydd yr wrthblaid Llafur ar Gyngor Sir Gâr, Rob James, sydd yn y gorffennol wedi sôn am ddiffyg tryloywder, nawr yn dweud bod modd gwneud llwyddiant o'r Fargen Ddinesig o hyd.

"Roeddwn yn gofyn am fwy o gribino a sicrhau ein bod yn gallu delifro ar addewidion a wnaed," meddai.

"Mae'n edrych felly y bydd yna newidiadau felly mae'n gyfle i symud ymlaen."