Cyhoeddi enillwyr Gwobr y Faner Werdd

  • Cyhoeddwyd
Coed y Bont
Disgrifiad o’r llun,

Coed y Bont ym Mhontrhydfendigaid yw un o'r safleoedd i gael y wobr

Mae elusen wedi cyhoeddi enillwyr Gwobr y Faner Werdd am eleni, am y llefydd mwyaf gwyrdd sydd o ansawdd.

Mae Cadwch Cymru'n Daclus wedi datgelu fod 221 o barciau a mannau gwyrdd wedi cyrraedd y gofynion eleni.

Maen nhw'n cynnwys amrywiaeth o safleoedd fel parciau trefol, tai, campysau prifysgol a ffermydd.

Mae'r safleoedd yn cael eu beirniadu ar fioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.

Dywedodd Cydlynydd y Faner Werdd yn Cadwch Cymru'n Daclus, Lucy Prisk fod y mannau gwyrdd yn "bwysig i iechyd a llesiant, natur a'r economi."

Ymysg y rheiny sy'n derbyn y wobr Faner Werdd eleni am y tro cyntaf mae:

  • Parc Gwledig Pen-bre yn Sir Gaerfyrddin,

  • Ystâd Tre Cwm yng Nghonwy

  • Dau safle newydd a reolir gan Gyngor Tref Cil-y-coed

  • Cae Chwarae Brenin Siôr V

  • Mynwent Llanddewi.

Mae dros draean o safleoedd Baner Werdd gymunedol y DU bellach yng Nghymru.

Ymysg y gwobrau hefyd eleni, mae Casnewydd wedi cael gwobr gymunedol gyntaf y Faner Werdd am Ardal Maendy a Sefydliad Lysaght.

'Calonogol'

Dywedodd Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, Hannah Blythyn: "Mae parciau a mannau gwyrdd yn chwarae rôl bwysig yn ein cymunedau, felly mae'n galonogol gweld ystod mor amrywiol o safleoedd yng Nghymru yn cael Gwobrau'r Faner Werdd.

"Mae ein parciau a'n mannau gwyrdd yn hafan i fywyd gwyllt ac yn hanfodol i'n hiechyd a'n llesiant. Hoffwn longyfarch yr holl safleoedd am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol, drwy'r flwyddyn, ar gyfer pobl yng Nghymru," meddai.