Dim Meic Stevens yn Sesiwn Fawr Dolgellau eleni

  • Cyhoeddwyd
Meic StevnesFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Meic Stevens yn perfformio yn ystod Gŵyl brynhawn Sul

Mae trefnwyr Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cadarnhau na fydd Meic Stevens yn ymddangos ar lwyfan yr ŵyl y penwythnos hwn.

Fe wnaeth Meic Stevens ddweud wrth Cymru Fyw ddydd Mawrth ei fod yn ystyried rhoi gorau i ganu yn y Gymraeg.

Daeth ei sylwadau yn dilyn honiadau ei fod wedi gwneud sylwadau hiliol mewn gig yng Nghaernarfon dros y penwythnos.

Mae Mr Stevens wedi gwadu gwneud sylwadau hiliol a dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae gen i rai [gigs] yn dod lan yn Nolgellau a'r Steddfod, ond dwi'n meddwl am beidio mynd os taw fel hyn mae pobl yn meddwl amdana i."

'Addasu'r amserlen'

Mae aelod o bwyllgor Sesiwn Fawr Dolgellau wedi gwrthod cadarnhau wrth Cymru Fyw os mai penderfyniad y pwyllgor oedd canslo perfformiad Meic Stevens neu os taw'r canwr ei hun oedd wedi tynnu'n ôl.

Dywedodd datganiad Sesiwn Fawr Dolgellau: "Ni fydd Meic Stevens yn ymddangos ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau eleni. Bydd yr amserlen a'r rhaglen yn cael ei addasu o ganlyniad i hyn.

"Gan nad oedd neb o'n pwyllgor yn bresennol yng Ngŵyl Arall dros y penwythnos ni allwn fynegi unrhyw sylw ar y digwyddiadau parthed y canwr yno."

Doedd yr aelod o bwyllgor y digwyddiad ddim yn fodlon ychwanegu at y datganiad.