Meic Stevens yn gwadu sylwadau hiliol

  • Cyhoeddwyd
Meic StevnesFfynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Meic Stevens yn perfformio yn ystod Gŵyl Arall

Mae'r canwr Meic Stevens wedi dweud wrth Cymru Fyw ei fod yn ystyried rhoi'r gorau i ganu yn Gymraeg gan ddweud ei fod wedi cael loes ar ôl honiadau ei fod wedi gwneud sylwadau hiliol mewn gig yng Nghaernarfon dros y penwythnos.

Roedd sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn nodi bod y canwr wedi gwneud sylw am niferoedd Mwslemiaid ar fws yng Nghaerdydd - a bod rhai pobl wedi cerdded allan o'r cyngerdd.

Ac mae trefnwyr un cyngerdd yn y canolbarth eisoes wedi penderfynu canslo gwahoddiad i'r canwr berfformio yno ym mis Awst.

Ddydd Mawrth dywedodd Mr Stevens, oedd yn perfformio yn ystod Gŵyl Arall, ddydd Sul, fod unrhyw un sy'n ei nabod "yn gwybod nad yw'n hiliol.

"Dwi mor flin, dwi'n ystyried stopio canu yn Gymraeg.

"Mae gen i rai [gigs] yn dod lan yn Nolgellau a'r Steddfod, ond dwi'n meddwl am beidio mynd os taw fel hyn mae pobl yn meddwl amdana i."

"Y cwbwl nes i oedd dweud mod i wedi pigo lan fy wyres ar y bys yng Nghaerdydd, a bo fi'n rhyfeddu bod cymaint o Fwslemiaid ar y bys - wedes i ddim byd cas na hiliol amdanyn nhw," meddai.

"Nes i bendant ddim dweud unrhyw beth amdanyn nhw yn dod i Gaernarfon.

"Dyw'r bobl yma sy'n cwyno ddim yn cofio pan o'n i'n neud gigs i Rock Against Racism nôl yn y 70au a'r 80au - mae'r peth yn dwp!"

Ymateb Gŵyl y Dyn Gwyrdd

Ond mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd wedi dweud yn dilyn yr hyn sydd wedi digwydd na fydd y canwr nawr yn cael perfformio yn ystod yr ŵyl sy'n cael ei chynnal yng Nghrughywel ganol mis Awst.

Mewn datganiad fe ddywedon nhw fod "unrhyw fath o amarch tuag at eraill yn annerbyniol, ac yn sgil ei sylwadau diweddar, fydd Meic Stevens ddim yn chwarae yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd."

Fe fydd pwyllgor y Sesiwn Fawr yn Nolgellau yn cyfarfod heno i drafod y mater.

Yn ôl llefarydd ar ran yr Eisteddfod Genedlaethol doedd Mr Stevens ddim wedi cael ei fwcio i chwarae mewn unrhyw gyngherddau yn Llanrwst sy'n cael eu trefnu gan y brifwyl.

Roedd sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn nodi fod sylwadau'r canwr yn hiliol, a nodwyd fod rhai wedi cerdded allan a bod "pobl yn teimlo yn anesmwyth".

Ychwanegodd Mr Stevens: "Pan weles i rhywbeth ar Facebook, nes i ofyn i Mark, oedd yn chwarae bâs gyda fi dydd Sadwrn, os o'n i wedi dweud rhywbeth drwg, a wedodd e bo fi ddim wedi 'neud unrhyw beth yn wrong."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meic Stevens wedi recordio a pherfformio yn y ddwy iaith ers degawdau

Beth am y trefnwyr?

Dywedodd llefarydd ar ran Gŵyl Arall Caernarfon, gŵyl oedd yn cynnwys 47 o ddigwyddiadau mewn amrywiol leoliadau yn y dref:

"Cafwyd sawl trafodaeth a pherfformiad difyr ar amrywiol bynciau dros y penwythnos, ac mae'n hynod siomedig fod y wasg wedi penderfynu canolbwyntio'u sylw ar ddim ond un digwyddiad.

"Fel trefnwyr, nid yw'r hyn a fynegir o'r llwyfannau yn adlewyrchu barn yr Ŵyl, ac felly ni fyddai'n briodol i ni ymateb ymhellach."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd nad oeddynt yn ymchwilio gan nad oeddynt wedi cael unrhyw gwynion am Droseddau Casineb yn ystod yr ŵyl.