"Geraint Thomas yw'r ffefryn i ennill" - Gareth Rhys Owen o’r Tour de France

  • Cyhoeddwyd

Hanner ffordd trwy'r Tour de France, ac mae'r Cymro Geraint Thomas yn yr ail safle. Felly sut mae'n edrych iddo am weddill y ras? Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r sylwebydd Gareth Rhys Owen, sydd yn Ffrainc yn dilyn bob cymal o'r daith:

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Rhys Owen a'r tîm sylwebu wedi teithio 2,500km hyd yn hyn wrth ddilyn y ras

Faint o siawns sydd gan Geraint Thomas i ennill?

Geraint Thomas yw'r ffefryn i ennill nawr, sdim amheuaeth am hynny. Ar bapur alle'r deg diwrnod cyntaf ddim fod wedi mynd yn well iddo fe. Mae e wedi reidio yn safonol ac yn aeddfed iawn.

Do, fe gafodd e ddwy ddamwain, ond roedd e'n lwcus. Wnaeth e ddim colli amser mewn gwirionedd, na chwaith anafu ei hunan.

Dydy'r Tour de France ddim yn unig ynglŷn â dringo a rasio yn erbyn y cloc, ond weithiau mae angen bod ar flaen y ras ar yr amser cywir, oherwydd gyda beicio, os wyt ti tuag at y cefn a bod damwain yn digwydd, ti'n gallu colli'r olwyn flaen a cholli amser.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Thomas yn ennill Tour de France 2018

Beth yw'r bygythiad fwya' i Geraint Thomas?

Y tebygolrwydd ydy bydd Julian Alaphilippe [sydd ar y blaen ar hyn o bryd] ddim yn parhau ar flaen y ras am dair wythnos. Dyw e byth 'di ennill na chystadlu mewn ras tair wythnos. Dyw hynny ddim i ddweud na fydd e'n medru ennill mewn rhai blynyddoedd. Dyw e ddim yn amhosib iddo i ennill y crys melyn, ond dydy e ddim yn debygol.

Mae yna fygythiadau i Geraint Thomas, a mae lot o'r rheiny yn ymwneud â fe ei hunan. Mae e mewn sefyllfa ddelfrydol, a'i dîm e mor gryf, ond y bygythiadau mwya' iddo fe yw cael damwain, neu cael diwrnod gwael. Dyw e ddim wedi rasio lot yn y mynyddoedd uchel eto, felly os geith e ddiwrnod gwael yn y mynyddoedd, alle pethe fynd ar chwâl.

Sai'n credu fydd y pwyse yn cael dim effaith arno, achos mae e wedi llwyddo o'r blaen.

Beth yw sefyllfa Geraint o gymharu â llynedd?

Y gwahaniaeth yw, llynedd o'n ni'n gofyn a oes ganddo fe'r gallu a'r corff i bara tair wythnos? Oes mae e.

Ar ddechrau'r Tour eleni o'n ni'n gofyn a ydy e in form, oherwydd ei fod wedi crashio, wel mae'r deg diwrnod cyntaf yn awgrymu ei fod e mewn form aruthrol o dda. Ond mae 'na fynyddoedd uchel i'w dringo ac mae altitude yn gallu cael effaith ar rywun. Mae rasio beicio mor aruthrol o anodd.

Os wyt ti'n gofyn i fi, ife Geraint Thomas sy' fwya' tebygol o ennill y ras? Ie.

Ife Geraint Thomas yw'r ffefryn clir bellach? Ie

Os nad Geraint Thomas fydd yn ennill, yna pwy fydde'n ennill wedyn? Egan Bernal.

Ond mae damweiniau yn digwydd, a petai'r ddwy ddamwain sydd wedi digwydd, wedi mynd yn wahanol, fe allai fod wedi torri pont ei ysgwydd. Fe alle rhywbeth newid yn hawdd a ti methu cymryd dim byd yn ganiataol.

Sut fyddai llwyddo am yr ail dro yn cymharu â'r tro cyntaf iddo?

Bydde fe'n cadarnhau nad one hit wonder ydy e. Eisoes eleni, mae'r Ffrancwyr yn dangos parch gwahanol iddo fe.

Ar y funud, mae e'n dangos mai fe sy' gryfa a gydag amser mae e'n profi ei fod yn un o'r beicwyr arbennig yma a bydde ennill eto eleni yn gadarnhad nad fluke oedd llynedd.

Am y diweddaraf o'r Tour de France, gallwch ddilyn Gareth Rhys Owen ar ei gyfrif Twitter, dolen allanol ... (yn ogystal â chael ambell i dip defnyddiol iawn, fel hwn am sychu dillad!)

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Gareth Rhys Owen

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Gareth Rhys Owen

Hefyd o ddiddordeb: