Protestwyr amgylcheddol yn gadael ardal Castell Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
protestwyrFfynhonnell y llun, Tom Martin/Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Bu'r protestwyr yn gorymdeithio o'r Castell i Neuadd y Ddinas brynhawn Mercher

Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi penderfynu dod â'r protestiadau y tu allan i Gastell Caerdydd i ben.

Yn dilyn cyfarfod fore Mercher, mae aelodau'r grŵp ymgyrchu, Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) wedi penderfynu symud ffocws y gwrthdystio i Neuadd y Ddinas.

Erbyn 16:15 roedden nhw wedi gorymdeithio o ardal y Castell i Neuadd y Ddinas ar ôl cyfnod o areithiau a datgloi'r ddau brotestiwr oedd wedi eu clymu i'r cwch oedd yn rhwystro'r ffordd.

Dywedodd Pippa Bartolotti o XR Casnewydd wrth annerch y dorf ei bod yn diolch i bobl Caerdydd "am siarad â ni a'n cofleidio".

Ond ychwanegodd neges i wleidyddion gan ddweud: "Rhaid i ni weld newid, a'i weld yn fuan."

Mae'r protestiadau wedi achosi oedi difrifol i nifer o deithwyr yn y brifddinas ers i'r ymgyrch ddechrau fore Llun.

Dywedodd y grŵp eu bod nhw'n ddiolchgar am gydweithrediad y cyngor, yr heddlu a'r busnesau lleol yn ystod y tridiau o brotestio.

Bu Stryd y Castell yng nghanol y ddinas ar gau ers bore dydd Llun ar ôl i ymgyrchwyr ddefnyddio cwch i rwystro'r ffordd.

Y bwriad nawr yw parhau â'r brotest ar safle Neuadd y Ddinas.

Ychwanegodd yr ymgyrchwyr eu bod nhw'n bwriadu cysylltu ag ASau, ACau a Chyngor Caerdydd pan ddaw'r protestiadau i ben.

Ac os nad yw'r ymateb yn "ddigonol", dywedodd yr aelodau eu bod nhw'n barod i "ddychwelyd".

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai o'r protestwyr wedi bod yn cysgu yng nghanol y stryd dros nos

Yn ôl Comisiynydd Heddlu a Throsedd De Cymru, Alun Michael, roedd gan yr heddlu dasg anodd wrth geisio amddiffyn hawl pobl i brotestio'n heddychlon a sicrhau nad ydynt yn tarfu yn ormodol ar fywydau pobl.

"Dwi'n credu bod Heddlu De Cymru wedi llwyddo i gynnal y cydbwysedd yma yn dda. Mae'r cyfathrebu rhwng yr heddlu a'r protestwyr wedi bod yn gyson ac yn effeithiol," meddai.

Ychwanegodd bod yr ymateb i'r protestiadau hyn wedi bod yn gymysg.

"Fedrwch chi ddim ochri gyda naill ffordd neu'r llall. Mae'n rhaid gwneud penderfyniadau gofalus ar ôl ystyried y mater yn llawn.

"Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r galwadau i drin newid hinsawdd fel argyfwng ac mae hynny'n dangos ei fod yn bwnc sy'n cael ei gymryd o ddifrif."