Undeb Rygbi Cymru'n ystyried haneru nifer y rhanbarthau

Cynrychiolwyr o'r Gweilch, Caerdydd, y Dreigiau a'r Scarlets yn ystod gemau Dydd y Farn mis Ebrill
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru'n ystyried haneru nifer y rhanbarthau proffesiynol yng Nghymru ar gyfer tymor 2027/28.
Mae'r corff llywodraethu'n dweud eu bod yn dechrau ymgynghoriad ffurfiol gyda'r bwrdd rygbi proffesiynol a allai leihau nifer y rhanbarthau i dri neu hyd yn oed i ddau.
Mewn datganiad, dywedodd yr Undeb fod y system bresennol yn methu ac yn anghynaladwy, ar ôl cadarnhau eisoes nad ydyn nhw'n bwriadu parhau i ariannu pedwar tîm proffesiynol yn gyfartal yng ngêm y dynion.
Caerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets yw'r pedwar tîm presennol, gydag Undeb Rygbi Cymru'n dweud eu bod am gael strategaeth "fwy radical" yn barod erbyn mis Hydref.
- Cyhoeddwyd19 Mai
- Cyhoeddwyd7 Chwefror
Fe ddaw hyn ar ôl i dîm rygbi Cymru gael eu tymor gwaethaf erioed yn hanes gêm y dynion.
Maen nhw wedi colli naw allan o 10 gêm a arweiniodd at rediad o 18 gêm wedi'u colli'n olynol - a ddaeth i ben y penwythnos diwethaf pan guron nhw Japan 31-22 yn yr ail brawf.
Mewn datganiad dywedodd yr Undeb: "Dyw'r system rygbi bresennol yng Nghymru, sy'n cynnwys timau cenedlaethol, clybiau proffesiynol, clybiau cymunedol, academïau, prifysgolion ac ysgolion, ddim yn cyflawni llwyddiant cyson ar y cae ac nid yw'n gynaliadwy'n ariannol ar hyn o bryd.
"Felly mae Undeb Rygbi Cymru'n ystyried strategaeth fwy radical sy'n canolbwyntio ar wneud y mwyaf o fuddsoddiad a diwygio strwythur cyfan rygbi proffesiynol yng Nghymru, ymhlith opsiynau eraill."
'Y Gweilch na'r Scarlets wedi llofnodi'
Nod yr ymgynghoriad ffurfiol, fydd yn cynnwys chwaraewyr a chlybiau sy'n aelodau o'r Undeb, yw dod i gytundeb rhwng yr Undeb a'r rhanbarthau - dadl sydd wedi para 18 mis.
Mae'r cytundeb rygbi proffesiynol (PRA) presennol, sy'n sail i gêm broffesiynol Cymru, yn dod i ben yn 2027.
Roedd cytundeb pum mlynedd newydd fod cymryd ei le.
Cytunodd Caerdydd, sy'n eiddo i Undeb Rygbi Cymru bellach, a'r Dreigiau, sydd mewn perchnogaeth breifat, i'r cytundeb ond dyw'r Gweilch na'r Scarlets wedi ei lofnodi.
Mae disgwyl i'r pedwar rhanbarth barhau yn eu ffurf bresennol tan o leiaf fis Mehefin 2027 ond nawr mi fydd dyfodol y sefydliadau'n cael ei drafod unwaith eto.

Dywedodd Gareth Charles "tra ma' pawb yn dweud ma' rhaid 'neud rhywbeth, does neb yn cytuno be' sydd isie neud".
Yn ôl y sylwebydd rygbi Gareth Charles mae hwn yn "gyfle am slaten lân" o safbwynt yr Undeb.
Gan fod cytundeb y rhanbarthau'n dod i ben yn 2027 a phawb heb lofnodi'r cytundeb newydd fe benderfynodd yr Undeb "reit ma rhaid neud rhybweth yn gloi" meddai.
Pan gafodd ei holi ar Newyddion S4C dywedodd os mai dau ranbarth fydd yn goroesi Caerdydd a'r Scarlets ydy'r ddau mwyaf tebygol yn ei farn ef.
"I fi, bydd rhaid cael un yn y dwyrain ac un yn y gorllewin - annheg falle i'r Dreigiau gan eu bod nhw wedi llofnodi'r contract ond gobrin bydd dim tîm yn y brifddinas".
"Parc y Scarlets yw'r cae mwyaf" yn y gorllewin "so nhw sy'n amlygu eu hunain" ar hyn o bryd meddai.

Mae Chris Horsman yn credu mai "sefydlogrwydd" sydd ei angen ar y gêm yng Nghymru
Fe ddywedodd cyn-chwaraewr rygbi Cymru Chris Horsman mai ansicrwydd yw'r brif broblem ar y funud.
"Os edrychwn ni 18 mis yn ôl, pan ddechreuodd yr arweinyddiaeth newydd dywedon nhw y byddai ganddyn nhw strategaeth erbyn 2024” a'u bod "am gadw pedwar tîm, ac rydym am symud ymlaen”.
"Nawr, 18 mis yn ddiweddarach ac eto ni yn ôl i ddechrau o'r dechrau gyda mwy o ansicrwydd, mwy o adolygiadau, mwy o ymgynghoriadau, a'r hyn y mae'r gêm ei angen fwyaf ar hyn o bryd yw sefydlogrwydd.”
Wrth gyfeirio at ei gyn-glwb Celtic Warriors – wnaeth ddirwyn i ben yn 2004 ar ôl i glybiau Pen-y-bont a Phontypridd gyfuno - dywedodd "fe ddigwyddodd hynny dros benwythnos, bron a bod, ac er pa mor boenus oedd e o leiaf oedd e 'di gorffen ac fe gafodd penderfyniad ei wneud.”
Mae pob un o'r rhanbarthau wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater ar hyn o bryd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.