Oedi wrth i brotest newid hinsawdd barhau
- Cyhoeddwyd
Mae teithwyr yng Nghaerdydd wedi cael rhybudd am oedi pellach wrth i aelodau o'r grŵp ymgyrchu Gwrthryfel Difodiant (Extinction Rebellion) barhau â'u protest yng nghanol y ddinas.
Ddydd Llun fe wnaeth aelodau o'r mudiad gau ffordd ger Castell Caerdydd o'r gyffordd â Heol y Frenhines a Heol y Porth.
Mae un aelod wedi ymddiheuro yn wyneb galwadau i ddod â'r brotest i ben, ond gan ychwanegu fod y brotest yn hanfodol.
Mae'r mudiad wedi dweud ar neges Twitter fod ail gwch ar ei ffordd i ganol Caerdydd.
Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio y bydd mwy o ffyrdd ar gau ddydd Mawrth, ac maen nhw'n cynghori pobl i wirio amserlenni bysiau cyn cychwyn ar eu taith.
Mae Caerdydd yn un o bum canolfan y mae'r grŵp yn targedu, gyda phrotestiadau eraill i ddigwydd yn Leeds, Glasgow, Llundain a Bryste mewn ymgyrch bum niwrnod.
Mae'r ymgyrchwyr yn galw ar lywodraethau Cymru a Phrydain i weithio i leihau allyriadau carbon i ddim erbyn 2025, gan ddadlau bod nod llywodraeth Prydain i wneud hynny erbyn 2050 yn "rhy hwyr i newid unrhyw beth".
Dywedodd un o drefnwyr y brotest yng Nghaerdydd, Steffan Webb: "Mae'n amlwg bod ni'n torri ar draws bywyd y ddinas - ni'n gorfod derbyn hynny.
"Ond wedi dweud hynny, mae lot yn well torri ar draws bywyd y ddinas nawr a chael bywyd yn y dyfodol na gadael i betha' fynd fel maen nhw."
Yn ôl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, Sophie Howe mae angen gwneud mwy i atal newid hinsawdd.
Dywedodd: "Tra gall y bydd rhai pobl yn anghytuno â'u dulliau, mae Extinction Rebellion yn tynnu sylw at y gwirionedd na ellir ei wadu bod y rhai sy'n llunio polisïau yn methu gweithredu'n ddigon cyflym na chadarn i atal y newid yn yr hinsawdd.
"Mae yna arwyddion addawol fod pethau'n newid wrth i'r Llywodraeth ddatgan ei bod yn argyfwng ar yr hinsawdd, ffordd liniaru'r M4 yn cael ei gwrthod ac arweinyddiaeth ein prifddinas yn gosod cynllun cryf ar gyfer lleihau allyriadau o geir ac yn buddsoddi mewn helpu pobl i newid i drafnidiaeth gyhoeddus, beicio a cherdded.
"Ond mae arnom angen llawer mwy o hyn - mae'r cynllun deg-pwynt a gyhoeddais y mis diwethaf wedi rhoi man cychwyn i'r modd y dylai Llywodraeth Cymru gynyddu buddsoddi yng nghylch cyllideb y flwyddyn hon mewn meysydd megis trafnidiaeth gyhoeddus, ynni a thai er mwyn ein gosod ar y ffordd gywir i gwrdd ag allyriadau carbon er mwyn ein planed a phobl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd7 Mai 2019