Hen luniau Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

  • Cyhoeddwyd

Am un wythnos bob blwyddyn mae perfformwyr o wledydd ar draws y byd yn heidio i Langollen i rannu eu diwylliant a chystadlu yn yr Eisteddfod Ryngwladol.

Ac fel mae'r lluniau yma yn eu dangos, mae digon o berfformio a hwyl wedi bod ers yr un gyntaf un yn 1947.

Bryd hynny fe wnaeth pobl o saith gwlad ymuno gyda chorau o Gymru, Lloegr a'r Alban i gystadlu. Y bwriad oedd annog gwell dealltwriaeth a chyfeillgarwch rhwng pobl gyffredin o ddiwylliannau gwahanol yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Eleni mae disgwyl dawnswyr, cerddorion a chorau o dros 30 o wledydd yn Llangollen, fydd yn parhau gyda thraddodiad sydd bron yn 80 mlwydd oed.

Grŵp yn perfformio y tu allan i'r orsaf yn LlangollenFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Creative Commons/Amgueddfa Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Grŵp yn perfformio y tu allan i'r orsaf yn Llangollen yn yr Eisteddfod Ryngwladol gyntaf yn 1947

Arweinydd côr yn cael ei daflu i'r awyr a'i ddal gan weddill yr aelodau
Disgrifiad o’r llun,

Y Kobenhavn Kammerkor - Côr Copenhagen, o Ddenmarc - yn dathlu ennill y gystadleuaeth Cân Werin Draddodiadol yn 1948

Rhes o ddawnswyr Pwylaidd
Disgrifiad o’r llun,

Dawnswyr Pwylaidd o Ynys Môn wnaeth ennill y ddawns werin draddodiadol yn 1948

Grwp yn dawnsio yn y stryd gyda thorf wedi ymgynull i wylioFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Creative Commons/Amgueddfa Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Dawnsio yn y stryd yn 1949

Grŵp o ferched yn dawnsio mewn gwisg draddodiadol TsiecoslofaciaFfynhonnell y llun, Hulton Archive/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Grŵp o ddawnswyr o Tsiecoslofacia - bellach gwledydd y Weriniaeth Tsiec a Slovacia

Y Frenhines Elizabeth II yn ymweld â'r Eisteddfod ac yn mynd heibio rhes o gystadleuwyrFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Creative Commons/Amgueddfa Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Y Frenhines Elizabeth II yn ymweld â'r Eisteddfod yn 1953

Dyn o bortiwgal mewn gwisg draddodiadol yn arwyddo llyfr lloffionFfynhonnell y llun, Three Lions/Getty Image
Disgrifiad o’r llun,

Gŵr o Bortiwgal yn rhoi ei lofnod, tua 1956. Gyda chymaint o bobl o wledydd gwahanol yn Llangollen, mae casglu llofnodion ac ysgrifen mewn ieithoedd gwahanol wedi bod yn boblogaidd ers degawdau

DawnswyrFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Creative Commons/Amgueddfa Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Dawnswyr traddodiadol - ac athletaidd iawn. Blwyddyn anhysbus

Y cyflwynydd Alan Stewart yn cyfweld drŵp o ddawnswyr o Sbaen yn 1975
Disgrifiad o’r llun,

Y cyflwynydd Alan Stewart yn cyfweld â grŵp o ddawnswyr o Sbaen yn 1975

Dawnswyr a ffidlwrFfynhonnell y llun, Casgliad y Werin/Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,

Dawnswyr o Newcastle upon Tyne yn 1976

Cyflwynydd BBC Cymru Alun Williams gyda aelodau o grŵp dawns Indiaidd o Walsall
Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynydd BBC Cymru Alun Williams gydag aelodau o grŵp dawns Indiaidd o Walsall

Dau berfformiwr o Sardinia yn gwenu i'r camera
Disgrifiad o’r llun,

Dau berfformiwr o Sardinia yn 1976

Grŵp dawnswyr o Wcráin
Disgrifiad o’r llun,

Grŵp dawnswyr o Wcráin, o Fanceinion, yn 1976

BBC Presenters at Llangollen International Musical Eisteddfod, 1987
Disgrifiad o’r llun,

Y cyflwynydd Hywel Gwynfryn yn cael gwers chwarae pib yn 1987

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.