Gwrthdroi rheol yn gwahardd barfau i focswyr amatur
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n rheoli bocsio yng Nghymru wedi dweud y bydd rheol sy'n atal bocswyr amatur rhag cael barf yn cael ei wrthdroi.
Roedd bocsiwr Sicaidd, Aaron Singh, 20, wedi dadlau bod rheol Cymdeithas Focsio Amatur Cymru (WABA) yn ei atal rhag cystadlu oherwydd ei ffydd, ac felly yn "achos o wahaniaethu".
Mae'r bocsiwr 20 oed sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd wedi croesawu'r newid, sy'n dod i rym ar 1 Awst.
Dywedodd bod y penderfyniad yn golygu ei fod bellach "yn gallu dechrau ar fy ngyrfa" fel bocsiwr amatur.
"Hoffwn i ddiolch WABA am ystyried yr hyn roedd gen i i'w ddweud a gweithredu newid," meddai.
Strategaeth gynhwysol
Mae'r egwyddor Sicaidd, Kesh, yn gwahardd tynnu unrhyw wallt oddi ar y corff am ei fod yn cael ei ystyried yn gysegredig ac yn anrheg gan Dduw.
Roedd corff cyfatebol yn Lloegr eisoes wedi gwrthdroi gwaharddiad tebyg yn dilyn ymgyrch gan focswyr Sicaidd a Mwslimaidd.
Dywedodd cadeirydd WABA, Derek McAndrew bod y newid yn un "bwysig, sy'n cydfynd â strategaeth bwrdd WABA" i sicrhau bod bocsio yng Nghymru yn gynhwysol.
Bydd y newid mewn grym ar gyfer y tymor newydd, wedi i fwrdd WABA gael cymorth cyfreithiol, ymgynghori â chorff rheoleiddio rhyngwladol ac adolygiad o'i reolau a pholisïau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2019