Cyngor Penfro yn rhoi mwy o amser i fenter gymunedol
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Benfro wedi penderfynu peidio gwerthu un o'i ffermydd mewn arwerthiant er mwyn rhoi cyfle i ymgyrchwyr yn Solfach ddod o hyd i'r arian angenrheidiol ar gyfer sefydlu menter gymunedol.
Yn wreiddiol roedd fferm Trecadwgan, ffermdy syn dyddio 'nôl i'r 15fed ganrif, i fod i gael ei werthu mewn arwerthiant ddydd Mercher, gydag amcan bris o £450,000.
Nawr dywed y cyngor sir eu bod yn derbyn nad oedd hynny yn rhoi digon o amser i Grŵp Achub Trecadwgan i gasglu arian a chwblhau eu cynllun busnes.
Dywedodd llefarydd ar ran y sir fod y grŵp wedi dangos ymroddiad ond fod "y safle yn parhau ar y farchnad".
Ychwanegodd er nad yw'r fferm yn mynd i arwerthiant, bwriad y cyngor yw derbyn y cynnig uchaf "bod hynny gan y grŵp neu beidio".
Dywedodd Dr Steven Jones, cyfarwyddwr gwasanaethau cymunedol y sir: "Mae'r cyngor yn cydnabod fod yna dddiddordeb sylweddol yn Fferm Trecadwgan."
Y nod, meddai, oedd ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng amcanion y grŵp cymunedol a chynnig gwerth am arian i drethdalwyr y sir.
Dywed grŵp o bobl leol eu bod eisiau datblygu menter gymunedol yno i gynhyrchu bwyd ac i addysgu pobl am dechnegau ffermio.
Dywedodd Rupert Dunn, cydlynydd y grŵp ymgyrchu, fod y newyddon diweddara yn ffrwyth llafur chwe wythnos o waith caled.
"Mae'r grŵp nawr wedi cael cyfle i gasglu arian a datblygu cynllun busnes gyda'r bwriad o wneud cynnig i brynu'r eiddo," meddai.
Dywedodd Gerland Miles, un arall o'r ymgyrchwyr fod prynu'r fferm yn gyfle i "dyfu a dosbarthu bwyd yn y gymuned ac ar gyfer y gymuned".
Mae'r fferm, sydd wedi bod yn wag ers mis Mawrth eleni, yn cynnwys 11 erw o dir ac 13 o adeiladau allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019