Heddlu'n cyhoeddi enw dyn a fu farw yn Ystalyfera
- Cyhoeddwyd
![Maes y Darren, Ystalyfera](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/7A1A/production/_107885213_img_1303.jpg)
Cafodd y gwasanethau brys eu galw i fflatiau Maes y Darren nos Sul, 14 Gorffennaf
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau enw dyn a fu farw yng Nghwm Tawe nos Sul.
Roedd Raymond Ashley, a fu farw yn fflatiau Maes y Darren yn Ystalyfera, yn 50 oed ac yn dad i dri o blant.
Mae dyn 48 oed a menyw 38 oed a gafodd eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi cael eu rhyddhau wrth i'r heddlu barhau â'u hymchwiliad i'r achos.
Mae plant Mr Ashley - Steven, Kristy a James - wedi talu teyrnged iddo gan ddweud ei fod yn "gymeriad a hanner ac yn garedig i bawb oedd yn ei nabod".
"Rydym yn drist eithriadol o golli ein tad - bydd yn cael ei golli gan ei holl ffrindiau, ei blant a'i wyrion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2019