Sgandal triniaeth gwaed: Profiad un teulu
- Cyhoeddwyd
Yn y 1970au a'r 80au cafodd cannoedd o gleifion yng Nghymru a miloedd ar draws y DU eu heintio ar ôl iddyn nhw dderbyn gwaed a chynnyrch gwaed oedd ddim yn ddiogel.
Fe fu farw nifer o ganlyniad i afiechydon fel AIDS a Hepatitis C - yn dilyn yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel y sgandal driniaeth waethaf erioed yn y gwasanaeth iechyd.
Ddydd Mawrth ac am weddill yr wythnos fe fydd ymchwiliad cyhoeddus i'r mater - y mwyaf o'i fath erioed ym Mhrydain - yn cwrdd yng Nghaerdydd i glywed gan Gymry gafodd eu heintio a theuluoedd y rhai fu farw.
Yr amcangyfri' yw bod o leiaf 300 o bobl yng Nghymru wedi'u heintio ond nid yw'r ffigwr hwnnw'n cynnwys pobl fu farw heb wybod eu bod wedi'u heffeithio.
Yn ôl Haemophilia Wales roedd yr hyn ddigwyddodd yn "drasiedi enfawr" ac mae'r elusen yn galw ar yr ymchwiliad i ganfod y gwir a sicrhau cyfiawnder i'r teuluoedd sydd wedi brwydro am ddegawdau i gael atebion.
Fe fydd yr ymchwiliad hefyd yn ystyried a wnaeth unrhyw un gelu gwybodaeth.
Yn ôl y Cadeirydd Syr Brian Langstaff fe fydd yr ymchwiliad yn ystyried miliynau o dudalennau o ddogfennau - er bod rhai o'r cyfnod wedi cael eu dinistrio.
Atgofion melys sydd gan Rachel McGuiness o'i phlentyndod yn byw wrth ymyl y môr ym Mhen Llŷn gyda'i thad. Mae'n ei gofio yn dysgu ei brawd a hi i hwylio a threulio amser ar lan y môr.
"Dwi'n cofio bob gwyliau Pasg oedd dad yn cael ni allan yn yr iard flaen ac oeddan ni yn paentio'r cychod i gael nhw allan ar y môr."
Fe gollodd Christopher John Thomas ei goes yn 21 oed am fod ganddo hemoffilia, cyflwr lle nad yw'r gwaed yn ceulo yn iawn, ond roedd yn byw bywyd llawn.
"Mi oedd o'n ddyn eithaf actif a jest yn mwynhau ei fywyd o a gwneud y gorau ohoni," meddai.
Weithiau byddai yn gorfod mynd i'r ysbyty a threulio amser yno i rheoli'r gwaedu pan fyddai'n cael anaf.
Ond fe newidiodd pethau pan ddechreuodd triniaeth newydd oedd yn cynnwys y gweithredydd ceulo gwaed Ffactor VIII.
Doedd dim rhaid ymweld â'r ysbyty wedyn, ond defnyddio'r feddyginiaeth adref.
Roedd yn golygu bod y teulu yn gallu mynd dramor ar wyliau.
"Oedd o jest yn rhoi gymaint o ryddid i bobl, bod nhw yn gallu byw bywyd bob dydd fel pawb arall."
Ddechrau'r 80au cafodd straeon eu cyhoeddi yn y wasg oedd yn dweud bod cleifion gyda chyflyrau gwaed yn gallu cael eu heffeithio gyda'r clefyd HIV. Fe benderfynodd ei thad fynd i weld y meddyg a gofyn am brawf.
13 oed oedd Rachel pan gafodd ei thad y diagnosis fod ganddo HIV.
'Torri ei galon'
Cafodd y diagnosis effaith enfawr arno.
"I ddechrau oedd o ddim jest yn drist ond yn torri ei galon bod o mynd i farw achos doedd na ddim triniaeth ar gael ar gyfer HIV ac AIDS yn y dyddiau yna."
Roedd ei thad wedi gwylltio hefyd ac yn grediniol bod yna ddrwg yn y caws gyda'r feddyginiaeth newydd. Roedd e o'r farn bod y gwasanaeth iechyd a'r llywodraeth ddim yn gwneud digon i sicrhau bod y driniaeth yn ddiogel.
Fe ddigwyddodd y dirywiad yn ei iechyd ar ôl ryw ddwy flynedd.
"Erbyn y diwedd oedd o'n afiach i fod yn hollol onest. Oedd o'n ddyn dros chwe throedfedd. Cyn iddo fo fynd yn sâl oedd o falle 14,15 stôn ac wedi mynd lawr i chwech neu saith stôn.
"Oedd o methu cerdded, methu sgwennu, methu canolbwyntio achos y meddyginiaeth oedd o'n cymryd."
Newydd orffen ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol oedd Rachel, sydd bellach yn athrawes ysgol yng Nghaerdydd, pan fu farw ei thad.
"Dwi'm yn meddwl bod nain a taid yr un peth ar ôl iddo fo farw. Oedd o wedi torri eu calonnau nhw," meddai.
Pan ddaeth hi yn fam am y tro cyntaf y teimlodd hi effaith ei golli.
"Mae Calum yn 17 rŵan ond pan ges i fy mhlentyn cynta i, o'n i yn teimlo yn eitha trist am y peth oherwydd o'n i yn meddwl wel mae o yn golled iddo fo hefyd. A fysa fy nhad wedi bod wrth ei fodd yn gweld fy mhlant i yn tyfu fyny."
Mae mam Rachel yn un o'r tystion i'r ymchwiliad wythnos yma ac mae'r teulu wedi rhoi tystiolaeth ysgrifenedig. Gobaith Rachel yw y bydd y gwir yn dod i'r fei ac mae eisiau i'r rhai oedd yn gyfrifol i gymryd cyfrifoldeb.
"Dyle fe ddim bod wedi digwydd. Mae lot o bobl yn colli rhieni ond doedd o ddim fod i farw felma oherwydd cyfrifoldeb neu gamgymeriadau pobl eraill."
Roedd llawer gafodd ei heintio yn bobl â haemoffilia wnaeth dderbyn triniaeth newydd yn y 70au ar 80au cynnar.
Roedd y driniaeth yn cynnwys elfen oedd yn cynyddu gallu'r gwaed i geulo o'r enw Ffactor VIII - triniaeth chwyldroadol ar y pryd oedd yn cynnig gobaith newydd i ddioddefwyr.
Ar y pryd roedd Ffactor VIII yn cael ei gynhyrchu drwy grynhoi gwaed o filoedd o roddwyr gyda llawer yn cael ei fewnforio o'r UDA a gwledydd eraill.
Achos cyntaf
Yr hyn ddaeth yn amlwg wedyn oedd bod y gwaed wedi cael ei gasglu o ffynonellau nad oedd yn ddiogel - yn cynnwys gan garcharorion gafodd eu talu.
Ym mis Mai 1983 daeth yr achos cyntaf o AIDS mewn person a haemoffilia yn y DU i'r amlwg - claf 23 oed o Gaerdydd gafodd driniaeth Ffactor VIII.
Bu farw ail ddyn ym Mryste. Roeddent ymhlith yr 20 achos AIDS cyntaf ym Mhrydain.
Yn sgil hynny, yn ôl Lynne Kelly, cadeirydd Haemophilia Wales, mae'r sgandal a'r ymchwiliad yn arbennig o berthnasol i Gymru.
"Roedd Ffactor VIII yn cael ei ystyried yn gyffur rhyfeddol newydd - ar gyfer hemophiliacs difrifol roedd yn driniaeth newid bywyd.
"Yn fy marn i cafodd diddordebau masnachol flaenoriaeth dros ddiogelwch cleifion."
Ond nid haemoffiliaid yn unig wnaeth ddioddef.
Yn ystod y 70au a'r 80au cynnar cafodd miloedd eu heintio a Hepatitis C ar ôl derbyn gwaed oedd ddim yn ddiogel drwy drawswylliad- yn eu plith mamau gafodd waed ar ôl geni plant ac unigolion gafodd waed ar ôl cael damwain.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2017
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd21 Mai 2019
- Cyhoeddwyd25 Medi 2018