Caerdydd yn arwyddo'r amddiffynwr canol, Aden Flint

  • Cyhoeddwyd
Aden FlintFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Caerdydd wedi cadarnhau eu bod nhw wedi arwyddo'r amddiffynnwr canol, Aden Flint o Middlesbrough.

Mae Flint, 30, yn ymuno â'r Adar Gleision am ffi sydd heb ei ddatgelu ar gytundeb tair blynedd.

Bydd Flint yn wyneb cyfarwydd i nifer o gefnogwyr Caerdydd wedi cyfnodau yn chwarae i Bristol City a Middlesbrough yn y Bencampwriaeth.

Daeth y newyddion ar ôl i Gaerdydd werthu Bruno Ecuele Manga i Dijon FCO am ffi o tua £3m a Kenneth Zohore i West Brom am oddeutu £8m.