Kenneth Zohore a Bruno Ecuele Manga yn gadael Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymosodwr Kenneth Zohore wedi gadael Caerdydd ac arwyddo gyda West Bromwich Albion yn y Bencampwriaeth.
Fe sgoriodd Zohore, sy'n 25 oed, un gôl mewn 20 ymddangosiad i'r Adar Gleision yn Uwch Gynghrair Lloegr y tymor diwethaf.
Mae disgwyl i West Brom dalu oddeutu £8m am yr ymosodwr o Ddenmarc - sy'n gadael y Brifddinas ar ôl tair blynedd gyda'r clwb.
Cafodd ei arwyddo o glwb KV Kortrijk yn 2016.
Daeth cadarnhad hefyd bod yr amddiffynnwr, Bruno Ecuele Manga wedi gadael Caerdydd am Dijon FCO.
Mae Manga, 31, yn ymuno â'r tîm sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Ffrainc am ffi sydd heb ei ddatgelu, ond credir ei fod tua £3m.
Mae'r ymosodwr ifanc, Rhys Healy hefyd wedi gadael y clwb er mwyn ymuno â MK Dons.
Bydd Caerdydd yn dechrau'r tymor newydd y Bencampwriaeth ar 3 Awst gyda gêm oddi cartref yn Wigan.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2019