Cyngor Gwynedd i drafod effaith Airbnb ar stoc dai
- Cyhoeddwyd
Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod effaith busnesau fel Airbnb ar y farchnad dai yn y sir yn ddiweddarach.
Mae dros 1,600 eiddo wedi eu rhestru ar y wefan - sy'n cynnig llety i'w rentu am gyfnod byr - yng Ngwynedd.
Mae'r cyngor yn bwriadu gwario £80,000 ar astudiaeth i ganfod effaith gosod tai ar gyfer gwyliau ac Airbnb.
Bydd adroddiad a fydd yn cael ei drafod yn nodi effaith tai gwyliau ar brisiau tai ac argaeledd tai i bobl leol.
Mae disgwyl i'r astudiaeth hefyd ystyried yr effaith ar yr iaith Gymraeg a bydd safonau diogelwch yn dod o dan y chwyddwydr.
'Twristiaeth wedi esblygu'
Mae tai gwyliau yn bryder i sawl cymuned yng Ngwynedd, ac mae'r cyngor wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd wedi adroddiadau bod perchnogion tai gwyliau yn talu treth fusnes yn hytrach na threth y cyngor.
Mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn credu y gallai olygu colled o hyd at £2m y flwyddyn.
Bydd yr astudiaeth yn ceisio canfod beth yw'r union sefyllfa bresennol ynglŷn â rhentu tai gwyliau am dymor byr gan nad oes angen caniatâd cynllunio i newid o fod yn dŷ annedd.
Ar hyn o bryd mae gwefan Airbnb yn rhestru 1,603 eiddo ar draws Arfon, Dwyfor a Meirionnydd - sef y rhan fwyaf o eiddo hunanarlwyo y sir.
Os fydd yn cael ei gefnogi, bydd yr astudiaeth yn ystyried effaith rhain ar brisiau tai yn yr ardal, effeithiau ar yr iaith Gymraeg a safonau diogelwch o fewn y sector.
Bydd sylw penodol hefyd i reoliadau sydd wedi eu cyflwyno mewn gwledydd eraill i fynd i'r afael â'r mater.
Ar ddiwedd yr astudiaeth gallai'r awdurdod wneud caniatâd cynllunio yn orfodol os yn newid cartref arferol i fod yn ail gartref neu yn gartref i'w osod ar gyfer gwyliau.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Griffith, aelod cabinet dros yr amgylchedd bod "pryderon wedi bod ers amser" am dai haf mewn rhai ardaloedd o Wynedd, "ond yn fwy diweddar mae'r diwydiant twristiaeth wedi esblygu gyda dyfodiad ac effaith cwmnïau fel Airbnb".
Ychwanegodd bod "hanner miliwn o westeion wedi aros mewn tai Airbnb yng Nghymru'r llynedd" a bod "defnydd cynyddol o dai farchnad agored yn cael eu defnyddio at ddibenion gwyliau yn cael effaith ar y stoc o dai lleol sydd ar gael i drigolion Gwynedd".
"O ganlyniad, rydw i'n awyddus ein bod yn gallu ystyried effaith hyn a gweld pa gamau y dylid eu cymryd ar lefel cenedlaethol a lleol."
'Gwledydd eraill yn gweithredu'
Mae'r Cynghorydd Griffith yn cydnabod pwysigrwydd twristiaeth i'r economi, ond dywedodd bod "diffyg gwirioneddol yng ngallu cynghorau i ymyrryd wrth i gartrefi llawn-amser gael eu newid yn dai haf neu ar gyfer defnydd gwyliau".
"Gogledd Iwerddon ydy'r unig wlad yn y Deyrnas Gyfunol sy'n rheoleiddio darparwyr llety gwyliau byrdymor ar hyn o bryd - yno mae disgwyl fod unrhyw lety yn gorfod cyrraedd gofynion penodol er mwyn sicrhau tystysgrif cyn y gellir gweithredu fel busnes.
"Felly hefyd mewn dinasoedd fel Barcelona, Berlin, Amsterdam a Paris lle mae cynnydd aruthrol wedi bod wrth osod tai neu ystafelloedd mewn tai ar gyfer defnydd gwyliau tymor byr.
"Mae rheoliadau penodol wedi eu cyflwyno yno sy'n golygu fod rhaid cael trwydded twristiaeth cyn cynnig llety o'r fath.
"Ond, tra bod gwledydd eraill wedi cyflwyno newidiadau synhwyrol i reoli'r defnydd, does dim newid wedi bod yma yng Nghymru."
Bydd yr adroddiad dan ystyriaeth y cabinet yn galw am waith ymchwil manwl ar y sefyllfa yng Ngwynedd a thrwy Gymru, gan weithio gyda Sefydliad Cynllunio Tref Brenhinol Cymru a chyrff eraill i ystyried pa gamau y dylid eu cymryd i reoli'r sefyllfa.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi 2018
- Cyhoeddwyd5 Medi 2018
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2016