Galw am reoleiddio'r cwmni llety, airbnb yn fwy gofalus
- Cyhoeddwyd
Mae angen gwneud mwy i sicrhau fod busnesau sy'n defnyddio safle airbnb yn cyd-fynd â rheolau iechyd a diogelwch, meddai perchennog gwesty wrth Newyddion9.
Yn ôl John Evans, sy'n berchen ar Westy'r Black Boy, Caernarfon, mae angen tynhau'r broses o reoleiddio airbnb.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n ymwybodol o'r pryderon a bod yna angen nawr i gydweithio.
Ymatebodd y cwmni llety: "Nid yw hi'n syndod gweld darparwyr llety traddodiadol yn ymosod ar ddyfeisiadau fel hyn (airbnb), ond mae arbenigwyr yn cytuno fod airbnb yn helpu tyfu a gwahaniaethu twristiaeth i bawb."
Ychwanegodd y cwmni fod defnyddwyr wedi rhoi hwb o £102m i economi Cymru y llynedd.
Dywedodd Mr Evans, sy'n defnyddio'r safle i hyrwyddo llety gwyliau arall yn y dref, fod y wefan yn "adnodd arbennig" ond bod angen ei gadw dan reolaeth.
"Tan fod rhywbeth yn digwydd - bod rhywun yn marw neu'n anafu - bydd dim yn cael ei wneud," meddai.
"Yn ôl y gyfraith, mae'n rhaid i berchnogion gwestai, neu unrhyw un sydd â llety cofrestredig yng Nghymru, gael tystysgrifau diogelwch neu na allant fod yn rhan o'r system graddio.
"Gan nad oes gan airbnb system graddio, does gennych chi ddim syniad. Gallwch ddarllen adolygiadau, ond nid ydi'r rhain yn dangos y gofynion diogelwch a'r gofynion cyfreithiol yn y cefndir."
Mae gwledydd fel Japan a rhai o ddinasoedd mawrion y byd fel Efrog Newydd, Amsterdam a Palma eisoes wedi cymryd camau i geisio rheoleiddio airbnb yn fwy gofalus.
Creda perchennog y Black Boy y dylai Llywodraeth Cymru wneud yr un peth.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran y Llywodraeth: "Mae marchnadoedd cymunedol a llwyfannau llety fel airbnb yn tyfu, ac mae'n well gan nifer o ddefnyddwyr ddefnyddio'r opsiwn yma.
"Rydym ni'n ymwybodol fod gan y diwydiant twristiaeth a rhai awdurdodau lleol bryderon am airbnb - ynglŷn â rheoleiddio a'r effaith ar gymunedau lleol er enghraifft - ac felly mae angen nawr i ni gydweithio i gydbwyso'r sialensiau a'r cyfleoedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mai 2018
- Cyhoeddwyd9 Awst 2016