Ceredigion yn sir ymarfer ar gyfer Cyfrifiad 2021

  • Cyhoeddwyd
CyfrifiadFfynhonnell y llun, Other

Mae Ceredigion ymhlith pedwar rhanbarth yng Nghymru a Lloegr sydd wedi eu dewis gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i gymryd rhan yn Ymarfer y Cyfrifiad ym mis Hydref.

Mae yna arwyddocâd arbennig i'r ymarfer eleni gan fod Cyfrifiad 2021, am y tro cyntaf erioed, wedi'i lunio i gael ei ateb ar-lein yn bennaf.

Cafodd y sir ei dewis gan fod ganddi gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae'n cynnwys ardal wledig fawr "gyda chwmpas rhyngrwyd amrywiol".

Mae dwy fwrdeistref yn Llundain - Tower Hamlets a Hackney - a Chaerliwelydd yn Cumbria hefyd yn cymryd rhan, a bydd trigolion yn y pedair ardal yn cael holiadur maes o law gyda gorchymyn i nodi manylion y bobl ar eu haelwyd ar 13 Hydref 2019.

Bydd cymorth ar gael i bobl sy'n ei chael hi'n anodd i lenwi'r ffurflen ar-lein, a bydd ffurflenni papur yn cael eu darparu i'r bobl hynny sydd wirioneddol eu hangen.

Dywedodd arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn bod y wybodaeth sy'n cael ei chasglu am y boblogaeth yn helpu awdurdodau lleol i lywio blaenoriaethau cynllunio "ar gyfer yr ystod gyfan o wasanaethau cyhoeddus".

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y sir ei dewis am fod ganddi gyfran uchel o siaradwyr Cymraeg ac mae'n cynnwys ardal wledig fawr "gyda chwmpas rhyngrwyd amrywiol"

Mae'r ystadegau, meddai, yn fodd o ragweld maint y galw tebygol am lefydd mewn ysgolion, tai, ysbytai, gwasanaethau meddyg teulu a gofal cymdeithasol, ac "yn sail i lefel dyraniad ariannol y Cyngor am y 10 mlynedd nesaf".

"Mae sampl o ysgolion cynradd ledled Ceredigion yn mynd i dderbyn pecynnau adnoddau addysgol... i hysbysu plant am Ymarfer y Cyfrifiad," meddai.

"Yn 2021, bydd ysgolion uwchradd yng Ngheredigion hefyd yn derbyn pecynnau gwybodaeth ond ni fydd gofyn iddynt gymryd rhan yn y broses ymarfer eleni."

Mae'r holiadur yn ychwanegol i'r wybodaeth sy'n cael ei gasglu'n flynyddol ar gyfer y Cofrestr Etholiadol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithrediadau cyfrifiad ONS, Pete Benton: "Gan mai dim ond bob deng mlynedd y mae'r Cyfrifiad yn digwydd, mae'n bwysig ein bod yn cynnal ymarfer gweithredol er mwyn sicrhau bod ein holl brosesau yn mynd rhagddynt yn ddidrafferth.

"Bydd y bobl sy'n cymryd rhan i gyd yn helpu i sicrhau llwyddiant cyffredinol cyfrifiad 2021."