Y Blaid Geidwadol i benodi Prif Weinidog newydd

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Hunt a Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty images/Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Daeth y cyfnod pleidleisio i ben brynhawn dydd Llun

Bydd arweinydd newydd y Blaid Geidwadol a Phrif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig yn cael ei benodi fore Mawrth.

Fe fydd un ai'r cyn-Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson neu'r cyn-Ysgrifennydd Iechyd, a'r Ysgrifennydd Tramor presennol, Jeremy Hunt yn olynu Theresa May fel Prif Weinidog.

Daeth y cyfnod pleidleisio ar gyfer aelodau'r Blaid Geidwadol i ben brynhawn dydd Llun.

Mae disgwyl i'r enillydd ddechrau yn ei rôl newydd ar ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Boris Johnson

Mae nifer yn credu mai Boris Johnson, cyn-faer Llundain a chyn-ymgeisydd Ceidwadol yn etholaeth de Clwyd, yw'r ffefryn i gael ei ethol.

Un sydd yn cefnogi ymgyrch Mr Johnson yw AS Mynwy, David Davies, sydd o'r farn mai ef yw'r "person gorau i ddatrys problemau Brexit rhwng nawr a diwedd mis Hydref."

"Ar y funud y dewis sy'n wynebu ASau yw ffurfio cytundeb neu aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae Boris am newid hynny," meddai.

"Y dewis fydd yn wynebu ASau wedyn fydd ffurfio cytundeb neu gadael yr UE heb gytundeb, ac ar y pwynt yma bydda nifer o ASau yn ystyried be maen nhw wir eisiau."

Roedd beirniadaeth o Mr Johnson yn gynharach yn y mis wedi iddo awgrymu y dylai fod "dylanwad Ceidwadol cryf" ynglŷn â sut mae'r arian ddaw i gymryd lle arian o gronfa'r UE yn cael ei wario yng Nghymru.

Ond dywedodd Mr Davies nad yw'n credu bod Mr Johnson yn bwriadu rheoli'r arian ddaw yn lle arian yr UE.

"Yr hyn rydyn ni'n ei wneud yw cyfnewid Brussels am San Steffan... Yn amlwg os yw'r rheolau yn cael eu gosod yn San Steffan yna bydd y Ceidwadwyr yn dylanwadu arno, fel y bydd Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Jeremy Hunt

Mae'r Aelod Seneddol Ceidwadol ar gyfer Sir Drefaldwyn, Glyn Davies wedi pleidleisio am yr Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt.

"Dwi'n meddwl mai'r peth pwysicaf i Gymru yw ein bod ni'n sicrhau cytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd cyn i ni adael," meddai Mr Davies.

"Fyswn i'n disgwyl rheolaeth sefydlog [pe bai Mr Hunt yn cael ei ethol] a byddai'n golygu bod gadael yr UE hefo cytundeb yn llawer mwy tebygol."

Mewn hystings yng Nghaerdydd dywedodd Mr Hunt "na fydd Cymru ar ei cholled" ar ôl colli arian o gronfa'r UE.

Ychwanegodd ei fod yn erbyn y syniad o wneud newidiadau cyson i drefniadau cyfansoddiadol.

Ond dywedodd Mr Davies nad yw hynny'n golygu ei fod yn gwrthwynebu'r syniad o ddatganoli.

"'Dwi'n nabod Jeremy Hunt yn dda. 'Dwi ddim yn meddwl y byddai'n gwrthwynebu unrhyw fath o drafodaeth am ddyfodol datganoli, a welaf i ddim unrhyw awgrym nad yw'n gefnogol o'r syniad."

Mae gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi galw ar bwy bynnag fydd y Prif Weinidog nesaf i wrthod y syniad o adael yr UE heb gytundeb.

Mae Gweinidog Brexit Cymru, Jeremy Miles, wedi cyhuddo'r ddau ymgeisydd o fygwth "rhwygo'r DU allan o'r UE heb gytundeb er mwyn plesio plaid eu hunain yn hytrach na rhoi anghenion y wlad yn gyntaf".

"Ni allai hyn ddigwydd, gallwn ni ddim aros yn dawel tra bod twf parhaus y sector amaeth yng Nghymru yn cael ei ddinistrio gan weithredoedd difeddwl rhai unigolion," meddai.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y gallai Brexit heb gytundeb arwain at ddirywiad yn yr economi, llai o swyddi, trethi uwch i fusnesau Cymru gan gynnwys tollau sylweddol ar gig oen a chig eidion a mwy o rwystrau i fusnesau yn gyffredinol.