'Colli cyfleoedd' i drin claf canser fu farw yn 1994

  • Cyhoeddwyd
Siaron Lowis BondsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Siaron Bonds ar 9 Medi 1994 - deuddydd ar ôl cyrraedd yr ysbyty i gael triniaeth cemotherapi

Mae crwner wedi dod i'r casgliad bod staff Ysbyty Gwynedd wedi colli cyfleoedd i drin dynes fu farw o ganlyniad i gymhlethdodau yn dilyn cemotherapi yn 1994.

Roedd Siaron Bonds, oedd yn 26 oed ac o Lanrug ger Caernarfon, yn yr ysbyty am driniaeth radd uchel at fath o lymphoma.

Ond bu farw wedi iddi ddatblygu syndrom o'r enw ATLS (Acute Tumour Lysis Syndrome) wedi i gymhlethdodau godi.

Dywedodd y Crwner Joanne Lees bod "cyfleoedd wedi'u colli i adnabod ATLS, i ddarparu triniaeth ac i gynyddu ei siawns o oroesi".

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon gan arbenigwr gwaed ddydd Mawrth na fyddai Ms Bonds wedi marw pe bai rhai pethau wedi cael eu gwneud yn wahanol.

Ond dywedodd y crwner nad oedd hi'n bendant y byddai Ms Bonds wedi goroesi hyd yn oed pe byddai'r staff wedi adnabod y cymhlethdodau cemotherapi yn gynt.

'Llawer rhy hwyr'

"Cafodd Siaron ei tharo'n wael yn dilyn triniaeth, ac roedd hi'n parhau i gyfogi'r diwrnod nesaf," meddai Ms Lees.

"Yn dilyn cemotherapi [ar 8 Medi] ni chafodd ei monitro yn gyson.

"Ni chafodd profion gwaed eu cynnal nes bore 9 Medi wedi i'w chyflwr waethygu, wnaeth yna adnabod ATLS.

"Y gred i ddechrau oedd ei bod yn wael oherwydd y cemotherapi a'r gorbryder a ddaw gyda hynny. Yn anffodus fe ddaeth y prawf gwaed yn llawer rhy hwyr."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae adroddiad eisoes wedi nodi bod y gofal a gafodd Siaron Bonds yn Ysbyty Gwynedd yn "annigonol"

Dywedodd y crwner y dylai Ms Bonds fod wedi derbyn mwy o hylif o ddrip cyn y cemotherapi ac y dylai'r staff oedd yn gweithio dros nos fod wedi galw am arbenigwr wedi i'w chyflwr waethygu.

"Nid darlun o fethiant llwyr yw hyn, ond roedd elfennau ar goll a cafodd cyfleoedd eu colli i ddarparu'r gofal iddi," meddai.

"Fy mhenderfyniad i yw bod Siaron Bonds wedi marw o sgîl-effaith i driniaeth cemotherapi allai fod wedi achub ei bywyd."

Daeth adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn 2008 i'r casgliad fod y gofal i Ms Bonds yn 1994 yn "annigonol" a bod "cyfres o gamgymeriadau gan staff wedi cyfrannu'n uniongyrchol at ei marwolaeth".

Fe ddigwyddodd y cwest bron i 25 mlynedd wedi'r farwolaeth o ganlyniad i dystiolaeth newydd sydd wedi dod i law, ac oherwydd newidiadau cyfreithiol ynghylch sut a phryd y mae cwestau'n cael eu cynnal.

Disgrifiad,

Fe wnaeth chwaer Ms Bonds, Glenda Murray ddarllen datganiad ar ran y teulu y tu allan i'r cwest

Yn darllen datganiad ar ran y teulu yn dilyn y cwest, dywedodd chwaer Ms Bonds, Glenda Murray: "O'r diwedd, cafwyd rhannol atebion i broblemau sydd wedi pwyso arnom ers blynyddoedd.

"Hyderwn y bydd y canfyddiadau yn sicrhau na fydd unrhyw drallod tebyg yn digwydd byth eto.

"Ni fydd unrhyw ddatgeliad yn gwneud iawn am y tristwch ingol o golli Siaron mor gynamserol. Geneth ifanc hyfryd, a merch a chwaer arbennig.

"Rydym wedi colli chwaer, nid yw ein plant wedi cael cwrdd â'u modryb, mae fy rhieni wedi colli 15 mlynedd a mwy o'u blynyddoedd yn ceisio atebion, ac mae'n rhaid i'r sefydliadau anferth yma fel Betsi Cadwaladr fod yn atebol i'w cleifion a'u teuluoedd."

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod "wastad wedi bod yn meddwl am y teulu".