Gwahardd y Cymro Luke Rowe o'r Tour de France

  • Cyhoeddwyd
Luke RoweFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Cymro Luke Rowe wedi ei wahardd o'r Tour de France yn dilyn digwyddiad ar 17eg cymal y ras ddydd Mercher.

Cafodd Rowe, sy'n cynrychioli Tîm Ineos gyda'r pencampwr presennol Geraint Thomas, ei gosbi ynghyd â Tony Martin o dîm Lotto Jumbo-Visma.

Cafodd y ddau eu gweld yn cystadlu am le yn y peloton ar ddringfa olaf y dydd - sydd wedi arwain at eu gwaharddiad gan swyddogion y ras.

Bydd y gwaharddiad yn effeithio ar obeithion Thomas ac Ineos o ennill y ras am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae hefyd yn effeithio ar arweinydd tîm Martin - Steven Kruijswijk - sydd hefyd yn brwydro am y crys melyn.

Dywedodd Rowe ei fod yn "bosib ein bod ni wedi mynd 'chydig yn rhy bell", ond nad oedd "yr un ohonom ni'n haeddu hynny".

"Dwi yma hefo grŵp o ffrindiau da a dwi'n teimlo mod i wedi gadael nhw i lawr - a fy hun."

Doedd dim newid yn nhrefn y beicwyr sydd ar y brig ddydd Mercher, wrth i Matteo Trentin ennill y cymal.

Julian Alaphilippe sy'n parhau i arwain y ras, gyda Thomas munud a 35 eiliad y tu ôl iddo.