Trefn cyfarfodydd Llys yr Eisteddfod yn 'anfoddhaol' - Dylan Iorwerth

Mae Dylan Iorwerth wedi dweud bod y drefn yn "anfoddhaol"
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-enillydd prif wobrau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn dweud fod angen newid trefn cyfarfodydd y corff llywodraethol, Llys yr Eisteddfod.
Dywedodd Dylan Iorwerth bod cyfarfod o'r llys ddydd Iau ar y maes yn "anfoddhaol", a bod angen ei gwneud hi'n "haws i aelodau cyffredin ddod â chynigion gerbron".
Un o'r pynciau trafod oedd cynnig gan Dylan Iorwerth a rhai llenorion eraill yn sgil y problemau gododd gyda'r Fedal Ddrama ym Mhontypridd y llynedd, pan bu rhaid atal y wobr er na chafodd rheswm ei roi ar y pryd dros wneud hynny.
Ry'n ni'n cael ar ddeall bod yr Eisteddfod wedi cynnig defnyddio darllenydd sensitifrwydd yn y dyfodol er mwyn ceisio osgoi sefyllfa debyg eto, ond dywedodd Dylan Iorwerth ac eraill y gallai hynny "ddrysu" y broses o gystadlu'n ddi-enw.
Ond yn sgil gwelliant i oedi'r penderfyniad daeth y drafodaeth i ben.
Dywedodd yr Eisteddfod y bydd y mater yn mynd at Bwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod, sy'n "cynnwys arbenigwyr ar draws pob disgyblaeth", ac y byddai'r "cynigydd, eilydd a chynigydd y gwelliant yn cael eu gwahodd i ymuno yn y drafodaeth".
- Cyhoeddwyd25 Mawrth
- Cyhoeddwyd27 Chwefror
Dywed Dylan Iorwerth fod y cynnig newydd o flaen y llys yn ceisio creu trefn i osgoi problemau tebyg i'r rhai a welwyd yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn Rhondda Cynon Taf rhag codi yn y dyfodol.
"Mae y cyfan yn troi o gwpmas rhywbeth mewn darn o waith sydd yn sensitif o ran hil, rhywioldeb, y math yna o beth.
"Mae yr Eisteddfod wedi cymryd cam ymlaen tuag at hynna o ran cyfarfod arbennig netho' ni ofyn iddyn nhw gynnal yn Aberystwyth.
"Roedd yna un peth roedden ni yn meddwl fydde yn creu probleme at y dyfodol sef y defnydd o ddarllenydd sensitifrwydd, sydd yn cael ei ddefnyddio yn aml iawn y dyddie 'ma wrth gyhoeddi llyfrau."
Beth yw darllenydd sensitifrwydd?
Dyw darllennydd sensitifrwydd ddim yn anarferol ym myd cyhoeddi.
Maen nhw'n cael eu cyflogi gan gyhoeddwyr i adolygu proflenni, ac i ddarllen llyfrau cyn eu bod nhw'n cael eu cyhoeddi.
Maen nhw hefyd yn edrych ar raglenni teledu neu radio am unrhyw gynnwys allai beri loes, a gwneud awgrymiadau golygyddol ynglyn â chynnwys.
Mae'n debyg fod yr Eisteddfod yn cynnig bod hynny'n digwydd yn ystod y broses feirniadu, a bod y beirniaid yn gallu gofyn am help darllenydd sensitifrwydd cyn penderfynu a ydyn nhw'n mynd i wobrwyo enillydd ai peidio.

Ond dywed Dylan Iorwerth bod y rheiny oedd yn gyfrifol am y cynnig yng nghyfarfod y Llys yn teimlo bod defnyddio darllenydd sensitifrwydd yn annerbyniol.
"I mi mae hynna yn rhwystro y broses o gystadlu neu yn drysu y broses o gystadlu yn ddi-enw a beirniaid yn gwybod dim byd amdano chi.
"Os nad ydych chi'n gwybod pwy yw cystadleuydd fedrwch chi ddim penderfynu ar sensitifrwydd."
Mae'n teimlo fod "unrhyw broblemau all godi, yn codi pan byddwch chi yn cyhoeddi neu yn perfformio y gwaith".
"Dyna pryd mae'n mynd i frifo rhywun neu achosi casineb at rhywun os yw y fath beth yn bod.
"Yr adeg honno mae'r Eisteddfod ei hun yn cael darllenydd sensitifrwydd a phenderfynu a ddyle y gwaith gael ei gyhoeddi. Mae'r broses o gystadlu a'r broses o gyhoeddi yn ddwy ar wahan."
Roedd Dylan Iorwerth o'r farn fod y cynigion a wnaeth, ynghyd ag eraill, wedi cael cefnogaeth yn y cyfarfod.
Ond, fe daeth gwelliant yn cynnig i ohirio'r drafodaeth ac felly doedd yna ddim penderfyniad y naill ffordd na'r llall. Mae'n dweud fod hynny wedi creu ansicrwydd.
'Dilyn proses arferol'
Dywedodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod y byddai'r mater yn "mynd gerbron Pwyllgor Diwylliannol yr Eisteddfod, sef y pwyllgor sy'n gyfrifol am holl agweddau cystadleuol y Brifwyl, ac sy'n cynnwys arbenigwyr ar draws pob disgyblaeth".
"Bydd y cynigydd, eilydd a chynigydd y gwelliant yn cael eu gwahodd i ymuno yn y drafodaeth."
Ychwanegodd y llefarydd bod y cyfansoddiad yn glir am gyflwyno cynigion ac y dylid eu cyflwyno o leiaf 14 diwrnod cyn cyfarfod, ond bod cynnig Dylan Iorwerth wedi ei gynnwys "er cwrteisi i'r cynigydd a'r eilydd ac er mwyn i'r aelodau gael cyfle i'w drafod".
"Mae cyfeirio'r mater hwn i'r Pwyllgor Diwylliannol yn dilyn proses arferol yr Eisteddfod."
Yn ôl Dylan Iorwerth roedd y drafodaeth yn y cyfarfod yn "gall a chanolbwyntio ar y ddwy ochr", ond ychwanegodd fod angen edrych ar drefn cyfarfodydd y Llys yn y dyfodol "er mwyn ei gwneud hi yn haws i aelodau cyffredin ddod â chynigion, ac i'r aelodau wneud penderfyniadau".
"Ond am y tro y cyfan ellid ei ddweud yw ei fod yn anfoddhaol."

Dywedodd Nic Parry ei fod eisiau i bawb deimlo eu "bod nhw yn cael eu clywed"
Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr alwad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Llywydd newydd Llys yr Eisteddfod, Nic Parry ei fod yn bwriadu sicrhau "trefn lle mae aelodau a chefnogwyr yr Eisteddfod yn teimlo bod nhw yn cael eu clywed".
Ychwanegodd: "Mae'r pwynt mae Dylan Iorwerth yn ei godi, bod rhaid bod yna brosesau sy'n caniatáu hynny i ddigwydd, dwi'n credu, yn bwynt teg."
Ategodd ddatganiad yr Eisteddfod ynghylch gwahodd y cynigydd a'r eilydd i fod yn rhan o'r drafodaeth sydd i ddod, gan addo: "Mi wna' i bopeth alla' i, i 'neud i bobl beidio teimlo'n rhwystredig, ond i deimlo... bod nhw'n rhan o hyn i gyd achos 'dan ni efo'n gilydd yn y fenter yma."