Drakeford: Ceidwadwyr 'wedi gadael y tir canol'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weinidog Cymru wedi beirniadu newidiadau cabinet Boris Johnson gan ddweud fod ei lywodraeth wedi "gadael y tir canol" o ran gwleidyddiaeth Prydain.
Fe wnaeth 17 o weinidogion Ceidwadol gael y sac neu ymddiswyddo wrth i Mr Johnson olynu Theresa May i rif 10 Downing Street.
Ymhlith yr aelodau newydd i gael eu dyrchafu i'r cabinet mae Brexitwyr cadarn fel Jacob Rees Mogg, Priti Patel a Dominic Raab.
Mae Alun Cairns yn parhau yn y cabinet fel Ysgrifennydd Cymru.
Wrth gyfeirio at y penodiadau newydd, dywedodd Mark Drakeford mai ei bryder "yw bod y prif weinidog newydd wedi gadael tir canol gwleidyddiaeth Prydain, mae wedi gadael tir canol plaid ei hun".
"Mae wedi llunio gweinyddiaeth sydd bron yn dod yn gyfan gwbl o blith pobl sy'n dod o un safbwynt o fewn y blaid Geidwadol."
Yn ôl Mr Drakeford roedd o hefyd yn bryderus fod y bwlch rhwng blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a rhai Llywodraeth y DU "wedi cynyddu dros y 24 awr ddiwethaf o ran y math o gabinet mae o wedi ei lunio".
Mae Mr Johnson wedi addo y bydd yn gweithio'n galed er mwyn llunio cytundeb ymadael newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, ond mae hefyd wedi dweud yn bendant y bydd y DU yn gadael ar 31 Hydref gyda neu heb gytundeb "doed a ddelo".
Dywedodd Mr Drakeford ei fod yn poeni fod y tebygolrwydd o adael yr UE heb gytundeb wedi cynyddu.
Mae wedi anfon llythyr ar y cyd â Phrif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, yn galw ar Mr Johnson i addo na fydd yn derbyn Brexit heb gytundeb.
Mae'r llythyr yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn "drychinebus i bob rhan o'r DU".
Ddydd Iau, ychwanegodd: "Doedd dim cytundeb ddim yn ddewis adeg y refferendwm nag yr etholiad cyffredinol diwethaf, felly mae yna gwestiwn ynglŷn â democratiaeth yma hefyd.
"Mae'r syniad y gallai Prif Weinidog geisio anwybyddu Tŷ'r Cyffredin, neu fwrw 'mlaen gyda'r math yma o lwybr yn wyneb gwrthwynebiad yn ein fforymau democrataidd yng Nghymru, yn Yr Alban, ac yn Nhŷ'r Cyffredin - dwi ddim yn gweld sut mae modd gwneud hyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2019