Achub bachgen ddisgynnodd 50 troedfedd ger rhaeadr

  • Cyhoeddwyd
AchubFfynhonnell y llun, WESTERN BEACONS MRT

Mae bachgen wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl disgyn 50 troedfedd ym Mannau Brycheiniog.

Cafodd Tîm Achub Mynydd Gorllewin y Bannau eu galw i raeadr Henrhyd am tua 15:00 wedi adroddiadau bod bachgen yn ei arddegau wedi disgyn.

Dywedodd yr achubwyr bod y bachgen wedi cael anaf difrifol i'w goes.

Roedd rhaid defnyddio offer rhaffau arbenigol er mwyn achub y bachgen, ac roedd tua 20 o wirfoddolwyr a phum parafeddyg yn rhan o'r digwyddiad.

Ffynhonnell y llun, WESTERN BEACONS MRT