Ymchwiliad wedi ymosodiad a lladrad yn y Sioe
- Cyhoeddwyd
Mae dyn oedrannus yn gwella yn yr ysbyty wedi i rywun ymosod a dwyn oddi arno yn y Sioe Frenhinol.
Cafwyd hyd i Islwyn Jones, 76 oed, yn anymwybodol y tu ôl i fieri ar safle'r sioe yn Llanelwedd gan gŵn yr heddlu ddydd Mercher.
Fe gafodd e anafiadau i'w fraich, ei gefn a'i wyneb wedi'r ymosodiad nos Fawrth.
Mae Mr Jones wedi dweud wrth yr heddlu ei fod wedi cael ei ddyrnu yn ei wyneb wrth iddo adael y toiledau a bod eiddo wedi cael ei ddwyn oddi arno.
Dywed Heddlu Dyfed-Powys bod yr ymosodiad wedi digwydd ger mynediad F ym mhen pellaf maes y sioe ger siediau'r gwartheg.
Mae plismyn yn apelio ar unrhyw un a welodd beth ddigwyddodd rhwng 23:00 a hanner nos, nos Fawrth i gysylltu â nhw.
'Anaf cas'
Dywedodd ei ffrind Anna Davies, sy'n filfeddyg yn y canolbarth, bod Islwyn Jones o Sarn, ger Y Drenewydd, wedi cael anafiadau cas ond bod ei ysbryd erbyn hyn yn llawer gwell.
Cafodd yr heddlu eu galw fore Mercher wedi i Mr Jones beidio â bwydo defaid yr oedd yn gofalu amdanynt ar faes y sioe.
Ychwanegodd Mrs Davies: "Am 10:30 mi wnaethon ni ddweud ei fod ar goll ac fe ddywedodd plismones bod angen galw cŵn yr heddlu ac fe ddaethon nhw o hyd iddo.
"Fe wnaethon nhw drin e yn syth a gwneud yn siŵr ei fod yn iawn - roedd ganddo anaf cas ar ei fraich.
"Bu'n rhaid iddo fynd i Ysbyty Treforys i gael llawdriniaeth blastig - roedd yna hefyd anafiadau ar ei wyneb, anaf drwg ar ei drwyn ac roedd yna un ar ei gefn.
"Mae e mewn hwyliau da bellach ac rwy'n gobeithio y bydd yn dod adref yn fuan.
"Dywedodd Islwyn wrthyf ei fod wedi edrych ar ei ffôn am 23:05 a'r peth nesaf mae'n ei gofio yw ci'r heddlu yn tynnu ar ei grys y diwrnod canlynol - y broblem oedd ei fod wedi cael ei daflu i'r mieri."
Ymateb y Sioe
Roedd Islwyn Jones yn edrych ar ôl defaid Anna Davies a'i gŵr - mae e wedi bod yn mynd i'r Sioe Fawr yn Llaneweldd ers 58 o flynyddoedd.
Mae'r Sioe Frenhinol wedi dweud eu bod yn parhau i gynorthwyo'r heddlu yn eu hymchwiliad i'r ymosodiad.
Dywedodd datganiad: "Rydym yn cynnig cefnogaeth CCTV a byddwn yn cysylltu gyda'r sawl sy'n rhan o'r ymchwiliad.
"Fe gafodd [Islwyn Jones] ei ddarganfod yn dilyn ein hymateb effeithiol, hoffem i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gyda Heddlu Dyfed-Powys.
"Byddwn yn edrych ar y sefyllfa a dysgu unrhyw wersi ohoni, ond am nawr mae ein meddyliau gydag Islwyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2019