Isetholiad: Ceidwadwyr 'eisiau cytundeb â Phlaid Brexit'
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru yn deall fod y Ceidwadwyr wedi gofyn i Blaid Brexit beidio sefyll yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed.
Mae sawl ffynhonnell wedi cadarnhau fod Plaid Brexit wedi gwrthod syniad cadeirydd lleol y Ceidwadwyr yn Aberhonddu i drafod cytundeb etholiadol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig nad oedd "cynnal trafodaethau neu gytundebau â phleidiau eraill" yn bolisi i'r blaid.
Ond mae'n debyg bod y sgwrs wedi cael ei chynnal ym mis Mai yn rali Plaid Brexit ym Merthyr Tudful cyn etholiadau Senedd Ewrop.
Diswyddo Chris Davies
Yr wythnos flaenorol, agorodd deiseb Galw Nôl i benderfynu a fyddai'r AS Ceidwadol dros Brycheiniog a Sir Faesyfed yn cadw ei sedd wedi iddo gyfaddef hawlio treuliau ffug.
Ym mis Mehefin, fe gyhoeddwyd y byddai isetholiad yn cael ei gynnal ar ôl i 10,005 o bobl leol arwyddo deiseb i ddiswyddo Chris Davies fel yr AS lleol.
Cafodd Mr Davies ei ailddewis gan ei blaid leol i fod yn ymgeisydd y Ceidwadwyr ar gyfer yr isetholiad.
Penderfynodd Plaid Cymru beidio sefyll ar ôl dod i gytundeb i weithio gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Dewisodd y Blaid Werdd hefyd beidio â sefyll er mwyn osgoi hollti'r bleidlais gwrth-Brexit ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.
'Trafod cytundeb etholiadol'
Oherwydd pryderon tebyg am y posibilrwydd o hollti'r bleidlais Brexit leol, mae sawl ffynhonnell wedi dweud wrth BBC Cymru fod Cadeirydd y Ceidwadwyr ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, Peter Weavers, wedi trafod y syniad o gytundeb etholiadol â Nathan Gill o Blaid Brexit ym mis Mai.
Mewn sgwrs yn rali Plaid Brexit ym Merthyr Tudful, dywedir i Mr Weavers gyfeirio at gefnogaeth Chris Davies i Brexit.
Ond gwrthodwyd hynny gan Mr Gill oherwydd bod y cyn AS wedi cefnogi cytundeb Brexit Theresa May yn Nhŷ'r Cyffredin - cytundeb sydd wedi ei wrthod yn llwyr gan Blaid Brexit.
Gwadodd Peter Weavers bod sgwrs o'r fath wedi digwydd.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Rwy'n credu ei bod hi'n drueni eu bod wedi rhoi ymgeisydd ger bron - nid ydynt yn cael llawer o effaith - mae Plaid Brexit yn chwalu yn ôl yr arolygon barn."
Ond dywedodd ffynhonnell Dorïaidd fod Nathan Gill a Mr Weavers wedi siarad yn y rali ym Merthyr Tudful gan ddweud y byddai cydweithio gyda Phlaid Brexit yn "gwneud synnwyr". Dywedodd sawl ffynhonnell arall fod sgwrs wedi'i chynnal.
Wrth siarad ddydd Gwener, dywedodd Chris Davies, a enillodd y sedd gyda mwyafrif o 8,038 yn etholiad cyffredinol 2017: "Yn amlwg, nid oes angen pleidleisio dros Blaid Brexit os ydych am i Brexit ddigwydd.
"Yr unig ffordd i sicrhau Brexit yw bleidleisio dros y Ceidwadwyr a phleidleisio drosof fi," ychwanegodd.
Ymateb y pleidiau
Dywedodd ffynonellau Ceidwadol, a oedd yn pryderu am effaith bosib Plaid Brexit, eu bod yn obeithiol o weld "Boris bounce" - cynnydd yng nghefnogaeth y Torïaid ar ôl i Boris Johnson ddod yn brif weinidog.
Dywedodd ymgeisydd Plaid Brexit nad oedd yn credu y bydd y prif weinidog newydd yn cael effaith ar yr isetholiad.
Ychwanegodd Des Parkinson: "Y cwestiwn yw, a fydd e'n gallu cyflawni addewidion? Mae ganddo dri mis ac os na all gyflawni mae e'n dweud ei hun bod y blaid Dorïaidd yn wynebu y trafferthion tu hwnt i bob dychymyg.
Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynrychioli sedd Brycheiniog a Sir Faesyfed o 1997 i 2015.
Dywedodd Jane Dodds, arweinydd y blaid yng Nghymru a'r ymgeisydd yn yr isetholiad, fod Brexit yn cael ei godi ar stepen drws yn ogystal â materion lleol, fel mynediad band eang a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Pan ofynnwyd a ddylai pob plaid fod wedi sefyll, dywedodd Ms Dodds: "Yn amlwg rydym yn falch iawn bod Plaid Cymru a'r Blaid Werdd wedi gwneud penderfyniad, penderfyniad dewr iawn oherwydd eu bod am gael un plaid yn unig ar y papur pleidleisio sy'n cefnogi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
"Ac mewn gwirionedd, os mai dyna'r mater pwysicaf i bobl yma, yna mae ganddyn nhw'r un blaid i bleidleisio drosti.
"Ond hefyd, yn y Democratiaid Rhyddfrydol dwi'n gobeithio, mae ganddynt blaid arall a fydd yn eu cynrychioli ar amrywiaeth o faterion hefyd."
Nid yw etholaeth Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi cael ei chynrychioli gan Lafur ers 1979 ond dywedodd Tom Davies, cynghorydd tref lleol ac ymgeisydd isetholiad y blaid, ei bod yn iawn bod y blaid wedi penderfynu sefyll.
Dywedodd: "Nid wyf yn credu bod cyfyngu'r dewis yn beth da ac os yw Adam Price yn barod i gymeradwyo record y Democratiaid Rhyddfrydol fel contractwyr cyfnod llymder, a'r Torïaid yn benseiri, mae pob croeso iddo wneud hynny, mae hynny'n iawn. Ni ddim am wneud hynny.
"Rydym yn mynd i sefyll yn erbyn y cyfnod o lymder wnaeth y Democratiaid Rhyddfrydol helpu ei gyflwyno," ychwanegodd.
Mae Liz Phillips o UKIP a Lady Lily the Pink ar ran y Monster Raving Loony Party hefyd yn sefyll fel ymgeiswyr yn yr isetholiad ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2019