Yr AS Chris Davies yn colli ei sedd wedi deiseb galw nôl
- Cyhoeddwyd
Bydd isetholiad ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed wedi i dros 10% o'r etholaeth arwyddo deiseb i ddiswyddo'r AS Ceidwadol, Chris Davies.
Ym mis Mawrth fe wnaeth Mr Davies, 51, bledio'n euog i gyflwyno dogfennau ffug a chamarweiniol wrth hawlio treuliau.
Bu'n destun deiseb galw nôl yn ei etholaeth, oedd yn golygu y byddai isetholiad pe bai 10% o'r etholaeth - 5,303 o bleidleiswyr - yn ei arwyddo.
Fe wnaeth 10,005 o bobl arwyddo'r ddeiseb dros gyfnod o chwe wythnos.
Cafodd Mr Davies ddedfryd o wasanaeth cymunedol a dirwy o £1,500 yn Llys y Goron Southwark ar ôl iddo gyfaddef y troseddau.
Dywedodd yn dilyn ei ddedfryd ei fod yn "ymddiheuro yn ddiamod" am yr hyn a wnaeth.
Mwyafrif o 8,038
Mewn datganiad dywedodd Mr Davies ei fod yn "siomedig" gyda'r canlyniad, gan ymddiheuro i bobl yr etholaeth am yr hyn a wnaeth.
Dywedodd: "Nawr mae hi'n gwbl gywir i'r bobl roi eu barn ar os ydyn nhw'n dal i fy nghefnogi i fel yr Aelod Seneddol mewn isetholiad.
"Dwi'n gobeithio eu bod nhw, ac rwy'n edrych ymlaen at adennill eu hymddiriedaeth ac adeiladu ar yr hyn rydyn ni wedi ei gyflawni dros y pedair blynedd diwethaf."
Yn etholiad cyffredinol 2017 roedd gan Mr Davies fwyafrif o 8,038 dros y Democratiaid Rhyddfrydol, ddaeth yn ail yn yr etholaeth.
Mae'r etholaeth ym Mhowys, ble ddaeth Plaid Brexit i'r brig yn yr etholiad Ewropeaidd ym mis Mai.
Mae deiseb galw nôl yn cael ei lansio pan fo AS yn derbyn dedfryd o garchar neu ddedfryd ohiriedig, neu'n euog o ddarparu gwybodaeth anghywir ynglŷn â hawlio treuliau.
Mr Davies oedd y trydydd AS i wynebu deiseb galw nôl ers iddynt ddod i fodolaeth yn 2016, ond y cyntaf yng Nghymru.
Ym mis Mai, AS Peterborough Fiona Onasanya oedd y cyntaf i golli ei sedd yn y ffordd yma wedi i dros chwarter ei hetholwyr arwyddo deiseb ar ôl iddi gael ei charcharu am ddweud celwydd ynglŷn â throsedd goryrru.
'Mynnu gwell'
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: "Mae miloedd o drigolion ar draws Brycheiniog a Sir Faesyfed wedi defnyddio'r cyfle yma i fynnu gwell na gwleidyddiaeth San Steffan, sydd ddim yn cymryd eu pryderon o ddifrif."
Mae disgwyl mai Ms Dodds fydd ymgeisydd y blaid yn yr isetholiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru: "Mae canlyniad y ddeiseb galw nôl yn ergyd i hygrededd Chris Davies i wasanaethu fel Aelod Seneddol. Ef yn unig sydd ar fai am y llanast yma."
Tom Davies sydd wedi cael ei ddewis fel ymgeisydd y Blaid Lafur ar gyfer yr isetholiad.
Dyw hi ddim yn glir eto a fydd Plaid Cymru yn ymgeisio am y sedd, ac fe wnaeth llefarydd o'r blaid awgrymu ddydd Gwener y gallai weithio gyda phleidiau eraill sydd o blaid refferendwm arall ar adael yr Undeb Ewropeaidd.
"Mae sicrhau bod y rheiny ohonom sydd eisiau gweld refferendwm arall yn cydweithio ar bob lefel posib yn allweddol er mwyn cyflawni ein nod," meddai'r llefarydd.
"Byddwn yn edrych ar yr opsiynau ynglŷn â sut allwn ni gydweithio, yn drawsbleidiol, i gyflawni yn isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed."
'Neges glir'
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Brexit bod canlyniad y ddeiseb galw nôl yn "neges glir bod etholwyr eisiau gwleidyddion y gellir ymddiried ynddyn nhw".
"Mae ein hymgyrch ni wedi dangos pwy sydd wrth y llyw - pobl y wlad hon," meddai.
"Byddwn yn dewis ymgeisydd lleol cryf, ac yn brwydro nid yn unig ar Brexit, ond hefyd ar faterion lleol."
Dywedodd llefarydd o'r Blaid Werdd: "Mae'r ymateb gan etholwyr lleol er mwyn dal eu Haelod Seneddol i gyfrif yn adlewyrchu awydd cynyddol, ar draws y wlad, i gael democratiaeth gynhwysol a chynrychioliadol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2019