Pêl-droed wedi 'newid bywyd' dyn digartref

  • Cyhoeddwyd

Mae Cwpan y Byd i'r Digartref yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd 27 Gorffennaf-3 Awst.

Un o aelodau sgwad Cymru yw Osian Lloyd, sy'n 19 oed ac yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog.

Yma mae'n siarad am sut mae pêl-droed wedi newid ei fywyd, a'r wefr o wisgo'r crys coch.

Disgrifiad,

"Dwi'n berson newydd. Mae gen i lot mwy o 'confidence', ar ac oddi ar y cae."

"Pan o'n i tua chwech, 'nath Mam farw, ac o'dd y teulu ddim yn dod at ei gilydd, a phawb yn ffraeo. Doedd hi ddim yn saff i mi fyw yna.

"Nes i symud mewn i ofal pan o'n i'n 15, ac ar fy mhen-blwydd i yn 16 nes i symud mewn i hostel GISDA yng Nghaernarfon.

"O'n i yna am tua dwy flynedd - wedyn o'n i ar y stryd, a ddim yn gwybod lle i fynd. O'n i'n teimlo ar goll mewn bywyd. Do'n i'm yn siarad efo'n nheulu, nag efo ffrindia' - o'n i ar ben fy hun.

"Pêl-droed helpodd. Ges i wahoddiad i dwrnament ym Mae Colwyn - es i jest yna achos mod i'n licio pêl-droed.

"Ges i'n newis ddwy flynedd yn ôl i fynd i'r Cwpan y Byd yn Oslo. Fuon ni'n trainio am tua 10 wythnos ond 'nath fy mhasport i ddim cyrraedd mewn pryd.

"Ond dwi'n ôl, dwy flynedd wedyn, i chwarae yng Nghaerdydd!

Disgrifiad o’r llun,

Mae yna ddau dîm yn cynrychioli Cymru - tîm o ddynion a thîm o ferched - oll â phrofiad o ddigartrefedd

'Person newydd'

"Ges i help gan GISDA - 'nathon nhw helpu lot. Dwi'n meddwl, heb GISDA, 'swn i ddim yma rŵan, so ma' gen i lot i ddiolch iddyn nhw amdan.

"A Street Football Wales. Sut bynnag tisho help, maen nhw'n gallu helpu chdi - counselling, pobl i dy helpu di os oes gen ti broblemau alcohol a chyffuriau... o'dd o'n sioc gymaint oddan nhw'n gallu helpu.

"Dwi'n byw ym Mae Colwyn, ond dwi wedi cael cynnig symud i Abertawe er mwyn bod yn fwy involved efo pêl-droed, yn volunteerio, a mwy o siawns i mi yn fy mywyd rili.

"Do'n i'm yn disgwyl dim byd fel'ma allan o jest pêl-droed.

"Dwi'n berson newydd. Mae gen i lot mwy o confidence, ar ac oddi ar y cae.

"Mae o 'di creu platfform i mi ddod i 'nabod be' dwi angen mewn bywyd. A dwi'n siarad efo nheulu a ffrindia' lot rŵan, so ma'n grêt.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr actor a'r ymgyrchydd Michael Sheen yn weithgar er mwyn sicrhau fod y twrnamaint yn dod i Gaerdydd

"Mae nghalon i'n mynd, yn meddwl am wisgo'r crys coch. Dwi'n cofio gweld y cit y tro cynta', tua tair wythnos yn ôl a nes i bron â chrïo - allai'm ddisgrifio fo.

"Ma'n nyts. Fi, yn chwarae dros Gymru, yng Nghaerdydd...?! A chanu'r anthem a pobl yn canu o efo ni?

"Waw!"

Hefyd o ddiddordeb: