CPD Caerdydd yn arwyddo'r ymosodwr Robert Glatzel
- Cyhoeddwyd

Fe sgoriodd Robert Glatzel 17 gôl i Heidenheim y tymor diwethaf
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi arwyddo'r ymosodwr o'r Almaen, Robert Glatzel.
Mae Glatzel, 25, yn ymuno â'r Adar Gleision am ffi sydd heb ei ddatgelu, ond credir ei fod tua £5.5m.
Llywyddodd yr ymosodwr i sgorio 17 o goliau i Heidenheim, sy'n chwarae yn ail adran Yr Almaen, y tymor diwethaf.
Mae Glatzel wedi chwarae i sawl clwb yn Yr Almaen gan gynnwys FC Kaiserslautern ac 1860 Munich.

Mae Gavin Whyte (dde) wedi chwarae pum gwaith dros ei wlad
Daeth cyhoeddiad ddydd Mawrth bod Caerdydd hefyd wedi arwyddo'r asgellwr o Ogledd Iwerddon, Gavin Whyte.
Y gred yw bod yr Adar Gleision wedi talu ffi o tua £2m am yr asgellwr, oedd yn chwarae i Oxford United yn Adran Un.
Fe ymunodd Whyte, 23, ag Oxford y llynedd wedi cyfnod yn chwarae yng nghynghreiriau Gogledd Iwerddon gyda Crusaders.
Llwyddodd i sgorio naw gôl i'w glwb y llynedd yn ogystal â chwarae pum gwaith dros ei wlad, gan sgorio un gôl.
Yn fuan wedi'r cyhoeddiad am ddyfodol Whyte, fe ddaeth y newyddion bod Oxford United wedi arwyddo ymosodwr Cymru a Lerpwl, Ben Woodburn ar fenthyg am y tymor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd19 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2019