Seiclwr wedi marw mewn gwrthdrawiad gyda char

  • Cyhoeddwyd
Ffordd A4063Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A4063 rhwng Llangynwyd a Coytrahen

Mae seiclwr 32 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad gyda char ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A4063 rhwng Llangynwyd a Coytrahen am 02:50 fore Sul.

Fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Tywysog Cymru yn y dref, ble bu farw ddydd Llun.

Doedd ei deulu ddim eisiau cyhoeddi ei enw llawn, ond dywedodd mam Michael, o ardal Caerau, Maesteg, ei fod yn "fab cariadus fydd yn cael ei golli'n fawr".

Mae dyn 20 oed oedd yn gyrru car Vauxhall Corsa wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol.