Oli McBurnie i adael Abertawe am ffi o tua £20m

  • Cyhoeddwyd
Oli McBurnieFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd McBurnie 24 o goliau i'r Elyrch y llynedd

Mae Oli McBurnie wedi gadael Clwb Pêl-droed Abertawe er mwyn ymuno â Sheffield United yn y Uwch Gynghrair Lloegr.

Fe sgoriodd McBurnie 24 gôl i'r Elyrch y tymor diwethaf gan eu helpu i orffen yn y 10fed safle yn y Bencampwriaeth.

Mae'r trosglwyddiad i Sheffield United - am £20m ac ar gytundeb pedair blynedd - wedi cael ei gwblhau'n ffurfiol ddydd Gwener.

Ymunodd McBurnie, 23, ag Abertawe o Bradford yn 2015 ac mae disgwyl iddyn nhw dderbyn tua 15% o'r ffi.