Cwmni cynhyrchu siocled yn Sir Gâr yn mynd i'r wal

  • Cyhoeddwyd
safle ffatri
Disgrifiad o’r llun,

Roedd safle mynedfa'r ffatri ger Llanboidy wedi cau i ymwelwyr ddydd Iau

Mae cwmni siocled Chocolate Farm Projects yn Sir Gaerfyrddin wedi mynd yn fethdalwyr.

Fe gychwynnodd Liam Burgess, perchennog cwmnïau Nomnom a Chocolate Farm Projects, ei fenter mewn carafán yn 2014 yn dilyn benthyciad o £4,000 gan Ymddiriedolaeth y Tywysog.

Yn 2016 fe ehangodd y cwmni i safle newydd mewn hen fferm laeth yn Llanboidy, ger Sanclêr.

Cafodd Chocolate Farm Projects ei sefydlu er mwyn ceisio ailagor hen adeilad ffatri Pembertons Chocolate, ond aeth i'r wal wedi i'r fenter fethu.

Y cyfrifwyr Booth Insolvency fydd yn gyfrifol am werthu asedau'r cwmni.

Er bod Chocolate Farm Projects wedi mynd i'r wal, dywedodd Mr Burgess y byddai brand Nomnom a'r siocled mae'r cwmni hwnnw'n ei gynhyrchu yn parhau.